google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 22 2026

Huw Edwards wedi’i ddiarddel o’r Orsedd

Yn dilyn cyfarfod cyffredinol yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd ddydd Iau, fe ddywedodd y Cofiadur, Christine James: “Mewn materion fel hyn mae’r orsedd yn ddarostyngedig i lys yr Eisteddfod.”

Llys yr Eisteddfod, sy’n elusen, yw corff llywodraethol y brifwyl.

“Mae gan y llys broses deg a chytbwys sydd wedi cychwyn,” medd Ms James.

“Ac er tegwch i bawb a rhag camarwain neb, nid yw’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

“A byddwn yn ddiolchgar pe bai chi ddim yn camddyfynnu nac yn camddehongli y sylwadau hyn, ac rwy’n eich herio chi i ddarlledu y sylwadau ola’ hyn.”

Plediodd Edwards yn euog ar 31 Gorffennaf yn Llys Ynadon Westminster i dri chyhuddiad yn ymwneud â 41 o luniau a chlipiau fideo oedd wedi eu hanfon ato ar WhatsApp.

Bydd ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 16 Medi a bydd adroddiad prawf yn cael ei baratoi.


Source link

Advertisements

See also  Benetton 20-19 Cardiff: Late Albornoz penalty seals URC win for Italian side

Check Also

Nations League: Wales won’t fear star-studded Portugal – Jordan James

Jordan James insists depleted Wales will not be overawed when they line up against “the …

Women’s Lions tour a ‘top goal’ for Wales prop Sisilia Tuipulotu

Tuipulotu, 23, exploded onto the international scene in the 2023 Six Nations, where she earned …

Arweinydd cyngor yn ymddiswyddo ar ôl yfed gormod a disgyn

“Roedd yna amgylchiadau personol yn gefndir i’m hymddygiad hefyd, a dwi’n credu eu bod yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime