google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Hunllef’ newidiadau byr-rybudd i gludiant ysgol i Aberystwyth

Advertisements

Un arall sydd wedi wynebu problemau ar ddechrau’r tymor newydd ydi James January-McCann o bentref Derwen Las.

Mae ei fab 11 oed, Osian yn dechrau ym Mlwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Penweddig am y tro cyntaf.

Clywodd nos Fawrth am y neges ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn golygu newidiadau i’r trefniadau teithio.

“Roedden ni’n edrych ymlaen i gael noson hamddenol, dathlu, cael pob dim yn barod, a wedyn oedd jest yn troi allan yn noson hunllefus, llawn stress,” meddai.

Fe wnaeth cymydog gludo Osian at y bws cyhoeddus ym Machynlleth fore Mercher, ac yna roedd y plant yn cerdded i’r ysgol o orsaf fysiau Aberystwyth.

“Dydi fy mab ddim yn gyfarwydd iawn ag Aberystwyth,” meddai Mr January-McCann.

“Pan wnaeth o a’i ffrind gyrraedd Aberystwyth roedden nhw wedi edrych ar ei gilydd a dweud ‘pa ffordd mae’r ysgol, lle dan ni’n mynd rwan?’, a doedden nhw ddim yn gwybod.”

Dywedodd bod ei fab wedi cael addysg gynradd yng Ngheredigion hefyd, a bod ei holl ffrindiau yn symud gydag ef i Ysgol Gyfun Penweddig, ac felly nad ydyn nhw eisiau gorfod newid ysgol oherwydd y trefniadau cludiant.

“O’dd y bws ysgol yn berffaith i ni, oedd o’n mynd i fod yn gaffaeliad mawr, ond rŵan beth dan ni fod i’w wneud?”


BBC News

Views: 0

See also  Cyhuddo pedwar mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed ger Pontypridd

Check Also

Sketty teen with cerebral palsy walks for first time with exoskeleton

Cerebral palsy, external affects about one in 400 children in the UK, according to the …

Cwmbran man, 102, dies after alleged assault at Crow’s Nest pub

A 102-year-old man has died after allegedly being assaulted at a south Wales pub. Phillip …

First minister urges retailers to halt disposable barbecue sales

The first minister has urged Welsh retailers to stop selling disposable barbecues as this summer’s …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Hostrite business hosting plan review — powerful business hosting from just $8. Elfbar elfa kit. elfbar elfliq strawberry kiwi nikotinsalz liquid 10 mg/ml nikotin.