google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Hunllef’ cyn-Miss Cymru o glywed lleisiau am niweidio ei mab

Yn ystod ei phlentyndod, dywedodd ei bod yn golchi ei dwylo nes eu bod yn gwaedu er mwyn cael gwared ar germau.

Roedd odrifau yn broblem iddi, byddai’n osgoi cerdded ar rannau o balmant a byddai’n cyffwrdd â rhywbeth degau os nad cannoedd o weithiau er mwyn “osgoi marwolaeth rhywun agos neu i’r tŷ losgi”.

Pan yn fyfyriwr 20 oed fe ddatblygodd y cyflwr i fod yn harm OCD ac fe ddechreuodd gael cwestiynau cwbl anghynnes yn ei phen.

“Do’dd cyffwrdd â rywbeth 500 o weithiau ddim yn gweithio rhagor – ro’n i’n clywed lleisiau yn gofyn i fi beth os ydw i’n mynd i ‘stafell aelodau o’r teulu a gwneud rhywbeth ofnadwy iddyn nhw.

“Ro’n i wrth gwrs yn byw gyda Mam-gu a Grandpa ac yn dwlu arnyn nhw ond mae’r cyflwr yn golygu eich bod yn preyo ar y rhai agosaf atoch chi.

“I ddod dros hynny fyddwn i ddim yn bwyta a byddwn yn trio ‘neud fy hun mor wan â phosib fel bo fi ddim yn gallu ‘neud dim byd. Ro’n i’n siomi fy hun wrth i fi gael y profiadau erchyll.”

Roedd ei chyfnod fel Miss Cymru (2011-12) yn anodd ar brydiau, meddai, yn sgil y salwch gyda threfnwyr y gystadleuaeth ar ddechrau ei chyfnod yn ystyried, heb yn wybod iddi ar y pryd, penodi yr un a ddaeth yn ail i’r rôl.

Ychwanegodd bod ei chwrs gradd Seicoleg yn y brifysgol wedi bod o gymorth mawr iddi ac wedi gwneud iddi sylweddoli bod cymorth ar gael.


Source link

Views: 0

See also  Storm Dennis: Tylorstown landslide staff given prosecution threat

Check Also

Osprey swallows fish hook in nest with newborn chicks

An osprey is being closely monitored after swallowing a fish hook attached to a trout. …

'Tornado-like flame' as smoke impacts major commuter route in rush hour

People are told to keep their windows closed due to smoke from an industrial fire. …

Teyrnged i ddyn 18 oed ‘oedd â’i holl fywyd o’i flaen’

Dywedodd ei deulu fod Dominic Bailey newydd gwblhau ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. Coming.