google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Hunllef’ criw o Wynedd sy’n sownd dramor yn sgil gwrthdaro’r Dwyrain Canol

Mae Cymry sy’n sownd dramor wedi son am yr “hunllef” o geisio dychwelyd adref, wrth i’r rhyfel yn y Dwyrain Canol arwain at ganslo hediadau.

Mae criw o elusen GISDA yng Ngwynedd yn wynebu taith tri diwrnod yn ôl o India oherwydd yr anghydfod.

Roedd disgwyl i’r criw, sydd allan yn India ar daith ddiwylliannol, ddychwelyd ddydd Llun.

Ond bu’n rhaid ail-gynllunio eu taith ar ôl i hediadau gael eu canslo a meysydd awyr gael eu cau.

Erbyn hyn mae disgwyl iddyn nhw adael Mumbai am 05:00 fore Iau, cyn dychwelyd i Fangor erbyn nos Sadwrn.

Mae Cymru Fyw eisoes wedi clywed am brofiadau pobl sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel.

Yn y cyfamser dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan mai ei “blaenoriaeth pennaf yw diogelwch y bobl sydd yng Nghymru a’r rheiny o Gymry sydd yn y rhanbarth”.


BBC News

Advertisements

See also  Cnoi cil ar ymddygiad dylanwadwyr mewn tai bwyta

Check Also

I interviewed Tennessee death row inmate Christa Pike 20 years ago

Pike grew up in Beckley, a small, working-class city in southern West Virginia, and her …

World Rally Championship: Elfyn Evans title bid under threat from flying Oliver Solberg

Elfyn Evans’ hopes of claiming a first World Rally Championship (WRC) crown are hanging by …

World Rally Championship: Elfyn Evans title bid under threat from flying Oliver Solberg

Elfyn Evans’ hopes of claiming a first World Rally Championship (WRC) crown are hanging by …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime