google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Hedfan awyren cyn bod yn ddigon hen i ddreifio car

Advertisements

Yn 15 oed, fe ddechreuodd gael gwersi hedfan ym Maes Awyr Caernarfon. Roedd o’n talu am ei wersi gydag elw o’i fusnes gwerthu hufen iâ i bobl oedd yn cerdded un o lwybrau’r Wyddfa ger ei gartref.

Ac yn ddiweddar, ar ôl hedfan nifer o weithiau gyda’i hyfforddwr, fe gafodd syrpréis. Aeth i’r maes awyr am ei wers arferol yn y Piper PA-28 a chael gwybod ei fod yn mynd ar ei ben ei hun.

“Neshi ddim cael llawer o amser i feddwl amdano fo achos neshi fynd syth i ffwrdd ond o’n i’n gwybod be’ i ‘neud,” meddai.

“O’n i wedi bod lot o weithia yn barod efo’r peilot pan wnaeth o jest deud ‘ti’n mynd ben dy hun rŵan’. Neshi fynd allan a ‘neud circuit ac yn ôl.”

Ar dir cadarn oddi tanodd, oedd ei dad Ian.

“Roedda chdi jest yn gweld y dot bach yma’n mynd yn y pellter, ac o fewn dim roedd o’n ôl,” meddai.

Dim ond wedyn wnaethon nhw ffonio adra i ddweud y newyddion wrth weddill y teulu.


BBC News

Views: 2

See also  James Ramm: Northampton Saints winger given two-match ban

Check Also

Arestio dyn ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol wedi honiad i ferch gael ei herwgipio

Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau bod merch 12 oed …

Tour de France: Josh Tarling – from hospital bed to Tour in three weeks

Three weeks ago Josh Tarling’s Tour de France appeared over. A high-speed crash at the …

Enwebu llwybr o Gymru am wobr hoff daith gerdded y DU

Esboniodd Gwyn fod Cwm Idwal yn “le sy’n denu” ymwelwyr. “Mae o’r math o lwybr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime