google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Gynno ni ddyletswydd’ i helpu plant Patagonia i ddod yma – athrawes

Advertisements

Mae criw yn gobeithio dod draw o Batagonia ym mis Tachwedd ond dydy Sioned ddim yn siŵr a fydd hynny’n bosibl i bawb sydd wedi mynegi diddordeb, gan fod “y gost wedi codi gymaint”.

“Mae lot o waith i’w wneud rŵan” meddai “a trio meddwl am sut ydyn ni’n mynd i helpu nhw pan maen nhw’n dod draw.”

Mae’n gobeithio gallu lleihau’r costau gymaint â phosib a dod o hyd i lety a gweithgareddau rhesymol.

“Dwi ‘di holi ambell i le – dwi wedi holi’r Urdd a gofyn tybad a fysa’ nhw’n rhoi gostyngiad iddyn nhw ond yn anffodus ma’ nhw ‘di gwrthod”.

Dywedodd bod hynny’n siomedig yn enwedig o ystyried “y croeso ma’ pobl Patagonia bob amser yn ei roi i ni”.

Mewn ymateb fe ddywedodd yr Urdd eu bod “yn falch o’n cysylltiadau hirhoedlog â’r Wladfa ac rydym wastad yn agored i drafodaethau sy’n cryfhau’r berthynas honno”.

Fe ychwanegon nhw “fel elusen ieuenctid, mae’n rhaid i ni lynu at ein polisïau yswiriant, iechyd a diogelwch, ac nid ydym mewn sefyllfa i gynnig llety neu wasanaethau am brisiau gostyngol i deithiau sy’n cael eu trefnu’n annibynnol”.


BBC News

Views: 4

See also  Tom Hardy stars in Netflix action thriller Havoc shot in Wales

Check Also

Couple marry at Man v Horse race in Llanwrtyd Wells

Safron said it was a busy morning before they exchanged vows: “We arrived, we were …

Rhyl man, 61, denies trafficking girl, 15, to London

A man accused of being involved in a child sexual exploitation ring in Denbighshire has …

Why a Gen Z Londoner can graze sheep in the Welsh valleys

Caleb Tutt’s life looks much like that of many Gen Z professionals in London – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment.... Fishing boat transport.