google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwrthod deddf fyddai’n creu hawl i gartref digonol

Mae’r syniad o gael deddf fyddai’n creu hawl i gartref digonol wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan ymgyrchwyr, sy’n credu y dylai’r gyfraith ddweud bod cael cartref diogel yn hawl ddynol.

Cyhuddodd Plaid Cymru y llywodraeth hefyd o gyhoeddi dogfen bolisi “wan a siomedig” ar dai, tair blynedd ar ôl iddi gael ei haddo fel rhan o gytundeb rhwng Plaid a Llafur.

Dywedodd gweinidogion: “Mae’r egwyddor bod gan bawb hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi’n llwyr.”

Mae’r ddogfen, dolen allanol, a elwir yn bapur gwyn, yn nodi polisïau i helpu i wneud tai yn fforddiadwy a chadw to uwch bennau pobl.

Mae’n dweud mai “uchelgais Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod tai digonol ar gael i bawb yng Nghymru”.

Mae saith maen prawf, a gynigir gan y Cenhedloedd Unedig, yn nodi sut olwg sydd ar gartref digonol.

Maent yn cynnwys bod yn fforddiadwy a diogelwch rhag troi allan gorfodol.


Source link

Views: 0

See also  Mam dyn 22 oed gafodd ei ladd yn Llanelli 'methu disgrifio'r boen'

Check Also

Councillor told to rearrange cancer appointment to attend a budget meeting quits Labour

Sue Riley says after a year “of trying to get it addressed I have decided …

‘Seren wib’: Cofio Owain Rhys Davies

Aeth o Ysgol Gynradd Y Dderwen i Ysgol Gyfun Bro Myrddin, buodd yn rhan o …

Concern as quarter of young adults have two or more takeaways a week

Public Health Wales said it must become easier for people to make healthier eating choices. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.