google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Gwleidyddion Llafur yn ymosod ar doriadau i uned mân anafiadau

Dywedodd Nia Griffith, AS Llafur Llanelli, ar wefan X ei bod yn “bryderus iawn” am y cynigion am yr uned mân anafiadau.

Ar ddiwrnod cyfarfod y bwrdd dywedodd ei bod wedi gofyn pam y gwnaed y penderfyniad cyn ymgynghoriad, a’i bod wedi gofyn am wneud mwy i gadw’r uned yn “barhaol ar agor 24/7”.

Mae maer tref Llanelli, y cynghorydd Llafur John Prosser, wedi ysgrifennu at weinidog iechyd Cymru yn galw arno i ymyrryd.

Ysgrifennodd Mr Prosser y llythyr fel ysgrifennydd Save Our Services Prince Philip Action Network (SOSPPAN), grŵp ymgyrchu wnaeth ddweud wrth BBC Cymru eu bod yn “anwleidyddol”.

“Mae pobl yn Llanelli yn gandryll,” meddai’r maer, “mae’r staff yn gefnogol iawn. Does neb eisiau ei weld yn cau, oherwydd os ydyn nhw’n ei chau yn y nos ni fydd byth yn cael ei hail-agor.”

Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mai’r dewis arall yw teithio i Glangwili yn Sir Gaerfyrddin, neu Dreforys yn Abertawe, gyda’r “ddau eisoes yn wynebu pwysau a galwadau aruthrol ar eu gwasanaethau”.

“Methiant i recriwtio mwy o feddygon, cynllunio gweithlu gwael, cyllidebau’n crebachu, dyma fethiannau Llywodraeth Cymru. Ond, yn y pen draw, pobl Llanelli a’r cyffiniau sy’n talu’r pris,” meddai.

Dywedodd y prif weinidog fod cyllid y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu 4%, o’i gymharu â chynnydd o 1% yn Lloegr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael cais am sylw.


Source link

See also  Wales weather: Flooding ahead of snow and ice warning

Check Also

‘Newid rhywedd yn ofal iechyd, a gwasanaeth atal hunanladdiad’

Yn ôl Reform UK yng Nghymru, mae’n gwneud synnwyr i oedi cyfeirio pobl am driniaeth …

Richard Tice says Reform being Wales opposition is work in progress

Reform UK deputy leader Richard Tice has described the party’s transition into the role of …

Carcharu pedoffeil ‘peryglus ac ysglyfaethus’ am dros 20 mlynedd

Mewn sgyrsiau ar yr ap rhwng Chwefror a Mai 2024, fe ddywedodd Henton wrth ddefnyddwyr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime