google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

Gwinoedd cartref: Creu ‘moddion’ o ffrwythau a dŵr

Mwyar duon, persli, sinsir, tatws… gallwch chi wneud gwin allan o bron unrhywbeth (bron).

Mae Moyra Blakeman, o bentref Dryslwyn yn Sir Gâr, wedi bod yn gwneud gwinoedd cartref ers dros ugain mlynedd, ac er ei bod hi wedi perffeithio‘r grefft erbyn hyn, roedd hi wedi cael ychydig o drafferth ar y dechrau, meddai…

“Dwi’n cofio rhywun yn dweud wrtha i, pan ti’n gwneud gwin, anghofia amdano fe am sawl blwyddyn, a bydd y gwin llawer gwell. Un o’r troeon cyntaf, o’n i mor gyffrous; gwnes i roi’r gwin mewn poteli, a’i roi yn y sied tu fas ac anghofio amdano fe, nes bo’ fi’n mynd mewn i’r sied rhyw ddiwrnod, ac roedd cyrc dros y lle.

“O’n i wedi rhoi’r gwin yn y poteli yn rhy ifanc, roedd y gwin i gyd wedi popio, a o’n i wedi colli’r batch cynta!”

Doedd yr ail gynnig ddim llawer gwell, pan aeth gwybed i mewn a gwneud pi-pi yn y gwin gan ei droi yn sur! Ond doedd hi ddim am adael i hyn ei stopio.

“Wrth i’r pethau hyn ddigwydd, ti’n newid y broses a dysgu. Fi wedi cael proses sy’n siwtio fi, a dwi wedi bod yn lwcus iawn ers hynny.”


BBC News

Advertisements

See also  Tonypandy woman falls off 130ft Waterfall Country cliff

Check Also

Vaping rates appear to be dropping among schoolchildren, according to figures

For the first time in several years, the rates of vaping among schoolchildren in Wales …

BBC weatherman Derek Brockway to walk away from role after 30 years

Brockway has celebrated his roots on screen, referring to the Vale of Glamorgan town as …

Derek Brockway i adael ei rôl gyda’r BBC wedi 30 mlynedd

Ar ôl bron i 30 mlynedd, mae un o gyflwynwyr tywydd mwyaf adnabyddus BBC Cymru …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime