google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gweinidog yn bwriadu siarad Cymraeg yn unig yng nghyfarfod y cabinet

Advertisements

Mae un o weinidogion cabinet newydd Llywodraeth Cymru’n gobeithio siarad Cymraeg yng nghyfarfodydd y cabinet gan annog eraill i roi cynnig arni.

Daw’r sylwadau gan y Gweinidog dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies cyn i gyfarfod cyntaf y cabinet newydd gael ei gynnal brynhawn Llun.

Chadarnhaodd e ddim a fyddai’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Gymraeg ond gyda phob aelod o’r cabinet yn siaradwyr Cymraeg “does gen i ddim bwriad cadarn i gyfrannu i’r cabinet mewn unrhyw iaith ac eithrio’r Gymraeg,” meddai.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth cyn y cyfarfod fod y llywodraeth “weithredol, yn llywodraeth i bawb ac yn llywodraeth sy’n dod â syniadau newydd”.

“Mae’r gwaith caled bellach wedi dechrau.

“Ein pwyslais yw ar y materion sydd bwysicaf i bobl ym mhob rhan o Gymru – torri rhestrau aros, cefnogi teuluoedd gyda chostau byw, creu swyddi da, codi safonau mewn addysg a mynd i’r afael â thlodi plant.”


BBC News

Views: 1

See also  Gareth Bale: Wrexham co-owner Rob McElhenney still targeting Wales great

Check Also

'Nes i orfod ailystyried fy nyfodol ar ôl i IVF fethu'

Ar ôl i Shosh a Carwyn roi’r gorau i IVF, roedd rhaid ailfeddwl sut roedd …

Barnwr yn mynnu atebion ar ôl rhyddhau dyn ‘peryglus iawn’ ar fechnïaeth

Dywedodd yr erlynydd, Selda Krasniqi, fod oedi o fwy na 24 awr cyn i swyddogion …

Barnwr yn mynnu atebion ar ôl rhyddhau dyn ‘peryglus iawn’ ar fechnïaeth

Dywedodd yr erlynydd, Selda Krasniqi, fod oedi o fwy na 24 awr cyn i swyddogion …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Bailey pegasus grande gt75 portofino 2025. What is shiva blotter art ?.