google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 12 2026

Gwefr efeilliaid o Ohio yn ymweld â’r Eisteddfod ar ôl dysgu Cymraeg

Advertisements

Mae dau ddyn ifanc o’r Unol Daleithiau sydd wedi dysgu Cymraeg wedi ymweld â’r Eisteddfod am y tro cyntaf yr wythnos hon.

Er bod eu cartref miloedd o filltiroedd o Gymru yn Ohio, Cymraeg yw prif iaith gyfathrebu Rhys a Connor Davis erbyn hyn.

Fe wnaeth Rhys benderfynu dysgu Cymraeg er mwyn dod i “‘nabod Mam-gu yn well”, tra bod Connor, ei efaill, wedi dysgu yn fwy diweddar.

Fe wnaeth Cymru Fyw siarad â Rhys bron i ddwy flynedd yn ôl, ond dywedodd fod “lot wedi newid ers y tro diwethaf i ni siarad”.

“Dwi ‘di bod yn gweithio yn y Gymraeg ers dau haf nawr a chadw’n fisi iawn o ran mynd mewn i bethe Cymreig a mynd yn ddyfnach fyth i mewn i’r byd ‘ma yng nghwmni ‘mrawd.”

Dywedodd fod ei deulu wedi dod draw o Ohio ddechrau’r wythnos, a “ni am fynd i’r Eisteddfod bron bob dydd ‘da’n gilydd a joio”.

Dywedodd Connor: “Dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers rhyw flwyddyn a hanner.

“Dechreues i ddysgu wrtho fe [Rhys], ac wedyn Say Something in Welsh, a nawr fi’n gwrando ar bodlediadau yn aml iawn a siarad ‘da fe.

“Rhaid i fi gyfaddef, nid i gysylltu gyda fy nheulu [nes i ddysgu’r iaith].

“‘Wy’n licio’r syniad o siarad iaith gyfrinach ac yn yr Unol Daleithiau, dyna yw e.”

Wrth sôn am ddod i’r Eisteddfod, dywedodd: “Mae wedi bod yn rhywbeth hollol wahanol, mae ‘di bod tipyn bach yn overwhelming i fi a bod yn onest, ond mae’n anhygoel i weld e.”


BBC News

See also  Porthmadog: Dau ddyn, 34 a 40 oed, wedi marw mewn gwrthdrawiad

Check Also

Merched Ray Gravell yn cofio eu tad a fyddai’n 75 oed

Yr hyn sy’n taro Manon yn aml yw y byddai ei thad yn dad-cu erbyn …

Wrexham ‘have to find a way back’ after West Ham thrashing – Parkinson

Jarrod Bowen scored his sixth goal of the season to set West Ham on their …

Cymru Premier: TNS boss Harrison sent off as Saints, Barry Town and Caernarfon all win

Jack Veale’s penalty snatched a point for Cardiff Met in a clash that saw both …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime