google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gohirio adroddiad hirddisgwyliedig ar y pedoffeil Neil Foden

Advertisements

Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru wedi gohirio cyhoeddi adolygiad o sut roedd prifathro yng Ngwynedd yn gallu cam-drin plant yn rhywiol.

Roedd disgwyl i ganfyddiadau’r ymchwiliad i Neil Foden gael eu cyhoeddi ddydd Mercher, ond daeth cadarnhad brynhawn Mawrth na fyddai hyn yn digwydd “tra bod y bwrdd yn “ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth ymhellach”.

Cafodd Foden – a oedd yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes – ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024.

Roedd Foden wedi ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.

Fe wnaeth y dyfarniad sbarduno Adolygiad Ymarfer Plant, o dan reolaeth Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ac wedi’i gadeirio gan Jan Pickles.

Bwriad yr adolygiad yw ystyried rôl yr asiantaethau a pha wersi sydd i’w dysgu.

Ond mewn e-bost brynhawn Mawrth daeth cadarnhad gan y bwrdd “na fydd cyhoeddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant yn mynd rhagddo”, ond nad oedd modd darparu unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd.


BBC News

Views: 3

See also  'Rhoi Pwllheli ar y map' mewn ras hwylio ar draws yr Iwerydd

Check Also

O Grymych i'r Bahamas: 'Cael fy nhalu i deithio'r byd'

Mae Shannon Mathias o sir Benfro wedi bod yn gweithio ar gychod hwylio gwerth miliynau …

Steve Cooper on Wales’ radar amid Craig Bellamy’s Burnley links

Wales are preparing for head coach Craig Bellamy’s possible move to Burnley with a shortlist …

Matthew Rhys praises 'tireless' parents of friend who died after rugby tackle

The father of late Wales U19s rugby player Paul-André Blundell is honoured with an MBE. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Aaa mush love. Learn more about troubleshooting wordpress.