google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gofal cymdeithasol mor werthfawr ond y ‘pwysau ar y staff yn rili anodd’

Advertisements

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol bod buddsoddiad sylweddol wedi bod wrth i Lywodraeth Lafur Cymru geisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.

“Gwelsom newid llywodraeth yn Llundain a’r yr hyn yr ydym wedi dechrau ei weld nawr yw bod arian yn dechrau llifo i mewn i lywodraeth Cymru mewn ffordd nad ydym wedi’i gweld ers 14 mlynedd,” meddai Dawn Bowden.

“Mae wedi golygu cynnydd o 4% yng nghyllidebau cynghorau i helpu i dalu am ofal cymdeithasol, meddai, gan ychwanegu bod gan Lafur Cymru “uchelgais glir am gyflog cyfartal â’r GIG ac wedi ymrwymo i’r cyflog byw go iawn a sefydlu’r cytundeb cyflog teg”.

Dywed Plaid Cymru eu bod o” ddifrif dros greu system iechyd a gofal integredig, fel bod cleifion yn gallu cael mynediad i ofal pan maen nhw ei angen”.

Ychwanegon nhw eu bod am “symud yn wirioneddol tuag at agenda ataliol i gadw pobl yn iachach am hirach”.

Yn ôl Reform UK mae ‘na “ddiffyg cyswllt yn y system gofal cymdeithasol rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd”.

Byddan nhw’n adolygu gofal cymdeithasol er mwyn datblygu fframwaith integreiddio wedi’i gostio’n llawn rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gydag atebolrwydd clir a ffocws ar ganlyniadau.

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bod yn rhaid trin gofal cymdeithasol fel blaenoriaeth genedlaethol a byddan nhw’n darparu pecyn achub wedi’i ariannu o gyllidebau presennol y Senedd neu o arian sy’n ddyledus i Gymru gan San Steffan.

Byddan nhw hefyd yn cefnogi cynnydd o 1c mewn treth incwm i helpu i dalu amdano.

Dywedodd Plaid Werdd Cymru y byddan nhw’n ymestyn Dechrau’n Deg ac yn ehangu gofal plant am ddim yn ogystal â “chyllido priodol” i’r timau cymorth i deuluoedd.

Ar gyfer gofal oedolion, dywedon nhw y byddan nhw’n canolbwyntio ar gadw pobl yn egnïol yn feddyliol, yn gorfforol ac yn gymdeithasol ac y byddai gofal cymdeithasol yn gweithio law yn llaw gydag iechyd cyhoeddus, gofal sylfaenol, grwpiau cymunedol a’r trydydd sector.


BBC News

Views: 3

See also  Cyngor Conwy i fwrw 'mlaen â chau dwy ysgol wledig

Check Also

Michael Sheen stars in UFO comedy after spooky sighting in Port Talbot

When Sheen returned to the area with his family in 1977, having lived for a …

Junior World Championship: Wales U20’s Steff Emanuel ready for next step at Cardiff

Emanuel has featured in every Wales Under-20s fixture this season and lines up in midfield …

Logan Mwangi: Mam a laddodd ei mab, 5, yn gobeithio am adolygiad o’i hachos

Yn dilyn gwrandawiad ddydd Mercher, dywedodd Tony Thompson wrth BBC Cymru bod Williamson wedi cysylltu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq with 10 mg/ml nicotine. Jammu & kashmir high court recruitment notification 2024 out : apply online, check eligibility. elfbar elfliq liquid.