google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gobaith adfywio adeilad hanesyddol i fod yn ‘gartref i’r Gymraeg’

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Gwener, dywedodd Morgan Dafydd, aelod o Bwyllgor Cymraeg Aberconwy: “Be’ ‘da ni isio ‘neud ydy ei droi o yn hwb Cymraeg, yn ganolfan ddiwylliannol – rhoi cartref i’r iaith Gymraeg yn ardal tref Conwy.”

Wrth sôn am weledigaeth y criw, dywedodd fod ganddyn nhw “sawl syniad” ar gyfer sut i ddefnyddio’r adeilad.

Un o’r rheiny yw “adfer y gofod perfformio” sydd ar lawr ucha’r adeilad, gan “gynnal digwyddiadau a cherddoriaeth fyw, dim jyst pethau Cymraeg wrth gwrs… yn debyg i’r hyn ‘da ni’n weld yn Neuadd Ogwen ym Methesda”.

Ychwanegodd y byddai’r criw yn hoff weld “ryw gynnig bwyd” yn y gofod ar y llawr gwaelod – “neuadd fwyd neu neuadd farchnad, gofod hyblyg i gael pobl i mewn i’r adeilad a defnyddio fo”.

Dywedodd Mr Dafydd fod “lleoliad yr adeilad reit yng nghanol y dre… wedyn mae’n bechod mewn ffordd bod yr adeilad wedi bod ar gau mor hir.

“Dwi’n siŵr fod ‘na ddyfodol llewyrchus o’i flaen o.”


BBC News

Advertisements

See also  Llandudno: Queen of Welsh resorts loses bust of Queen Victoria

Check Also

Rhyl man charged with murder after woman’s body found in burning van

A man has been charged with murder after a woman’s body was found in a …

Bed bugs crawling out the wallpaper in ‘worst ever’ Cardiff infestation

Millions of bed bugs were crawling out of mattresses in what a pest controller said …

World Rally Championship: Rally Scotland to take place in October as 2027 calendar released

The season will start on the icy tarmac roads in Monte Carlo from 21-24 January …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime