google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 22 2026

Gething yn debygol o golli pleidlais diffyg hyder yn y Senedd

Mae gan y Ceidwadwyr gefnogaeth Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond does dim digon o aelodau i ennill pleidlais petai pob aelod Llafur yn pleidleisio.

Ond petai aelod Llafur yn mynd yn erbyn y blaid, ymatal pleidlais neu fethu â phleidleisio, fe allai cynnig y Ceidwadwyr lwyddo.

Yn siarad gyda’r BBC fore Mercher, dywedodd Ms Howells: “Dydw i ddim yn darogan canlyniad pleidlais cyn iddo ddigwydd ond dwi’n bod yn onest am y sefyllfa yr ydym ynddi.”

Soniodd hefyd am y broses o baru aelodau gyda’r pleidiau eraill – cytundeb gwirfoddol sy’n golygu na fydd aelod o wrthblaid yn pleidleisio os oes aelod o’r brif blaid yn methu â bod yn bresennol.

“Hoffwn ddweud ein bod ni fel grŵp Llafur wedi paru yn gyson gyda’r pleidiau eraill pob tro maent wedi gofyn.

“Dyma’r traddodiad hiraf mewn gwleidyddiaeth ac mae’r ffaith eu bod nhw [y gwrthbleidiau] yn gwrthod gwneud hyn heddiw yn dangos faint o gimig ydy’r bleidlais a’r bwriad yw tanseilio ein democratiaeth.”


Source link

Advertisements

See also  Swansea City: Luke Williams 'fed up' as barren run goes on

Check Also

Pencampwr plygu gwrychoedd Cymru eisiau gwarchod y grefft

“Nes i ddechrau plygu gwrych pan o’n i tua naw oed gyda fy nhad. Roedden …

Cynllun canolfan ddata ar lan y Fenai yn codi ofnau, er addewid o waith i gannoedd

Wrth ymateb i bryderon, dywedodd y cwmni eu bod yn deall fod datblygiad tebyg “yn …

Llai o blant Cymru’n fepio ac ysmygu, yn ôl data newydd

Fe wnaeth yr ymgynghorydd Mary-Ann McKibben o Iechyd Cyhoeddus Cymru rybuddio na ddylai plant na …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime