google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gething wedi ceisio perswadio cwmni i beidio rhyddhau gwybodaeth

Ar awgrym ffynhonnell, gofynnodd Newyddion S4C am unrhyw gyfathrebu rhwng Mr Gething a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cais gwreiddiol BBC Cymru am lobio Vaughan Gething ar ran cwmnïau David Neal.

Mae’r e-byst gafodd eu rhyddhau yn dangos i Gyfoeth Naturiol Cymru gysylltu gyntaf gyda Mr Gething ar 4 Mawrth eleni, gan ofyn am unrhyw reswm na allai’r wybodaeth oedd wedi ei gasglu ganddyn nhw gael ei ryddhau dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Fe wnaeth Vaughan Gething ateb yn gyntaf ar 5 Mawrth, gan labelu’r cais yn “drip pysgota” a dweud y byddai ei etholwyr yn disgwyl i unrhyw gyfathrebu ar eu rhan gan aelod etholedig aros yn gyfrinachol.

Gofynnodd hefyd a fyddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfau diogelu data.

Fe wnaeth cynrychiolydd CNC ymateb gan ddweud bod rhyddhau’r wybodaeth yn gyfreithiol ac yn hanfodol dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Atebodd Mr Gething, sydd yn gyn-gyfreithiwr, unwaith eto, gan ddweud nad oedd e’n deall “sut mae fy nghyfathrebu, yn llawn neu yn rhannol, yn gyfystyr â gwybodaeth amgylcheddol”.

Dywedodd y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn effeithio ar y ffordd mae’n gweithredu ar ran ei etholwyr.

Cafodd y wybodaeth ei ryddhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar 8 Mawrth.

Cafodd Vaughan Gething ei gadarnhau fel arweinydd Llafur Cymru ar 16 Mawrth.


Source link

Views: 1

See also  Cardiff Airport's £205m handout challenged by Bristol

Check Also

Wrexham transfer news: Crystal Palace’s Danny Imray set for Red Dragons move

Wrexham boss Phil Parkinson has been determined to bolster his wing-back options following Issa Kabore’s …

O’r Furries i Hogia’r Wyddfa: cymbacs y bandiau Cymraeg

Er na wnaeth nhw erioed chwalu, doedd y Furries heb berfformio’n fyw ers degawd cyn …

Dyn yn euog o geisio llofruddio cyn-bartner mewn parc

Clywodd y rheithgor fod 17 o ardaloedd o ddifrod i’w chôt, ac fe welon nhw …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa vape. Vasque men’s hiking boots.