google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Ges i fy nghamdrin yn hiliol a chael cynnig £150 gan fy mhrifysgol’

Advertisements

Mae’r erthygl yma yn cynnwys cyfeiriadau at hiliaeth – mae pob enw wedi cael ei newid.

Roedd Jordan wedi bod mewn llety myfyrwyr am tua deufis cyn iddo ddweud iddo gael ei gamdrin yn hiliol gan ddau fyfyriwr arall.

Fe ddaeth yn ffrindiau gyda myfyriwr arall, Sam, oedd â ffrindiau yn y parti.

Dywedodd Jordan bod un ohonyn nhw, Will, oedd wedi gwisgo fel y rapiwr Soulja Boy “ond roedd ganddo wn am ryw reswm”, ato i ofyn am ei wisg.

Fe ofynnodd am wisg carcharor Jordan, a dywedodd Jordan fod Will wedi dweud wrtho nad oedd angen iddo wisgo fel carcharor i edrych fel troseddwr.

Dywedodd Jordan: “Fi oedd yr unig ddyn du [yn y parti], felly do’n i ddim yn trio dechrau problem, yn enwedig mor gynnar â hynny yn y brifysgol.

“Dywedais i, ‘dyw jôcs hiliol ddim wir yn ddoniol’, ac yna dywedodd Will ‘wel ro’n i’n ystyried mynd mewn black face‘.”

Dywedodd Jordan i Will ychwanegu: “Mae’n iawn, fi yw Soulja Boy.”

Ar ôl mynd i gael diod, dychwelodd Jordan a gweld Sam y tu allan gyda ffrind arall, Henry.

Dywedodd Jordan iddo ofyn pa flas vape oedd gan Henry, a’i fod wedi ateb mai banana oedd e a’i fod yn ei gasáu, ond ei fod yn disgwyl y byddai Jordan yn ei hoffi.

“Do’n i ddim yn credu’r peth. Ro’n i’n meddwl efallai ei fod wedi dweud hynny wrtha i ar ddamwain. Gofynais i i, ‘Beth? Wyt ti’n dweud hynny achos ‘mod i’n ddu?’, a dywedodd e ‘ydw’.”

Dywedodd Jordan iddo ddweud wrth Henry nad oedd hiliaeth yn ddoniol, ac atebodd, “wel mae Sam yn chwerthin”.

“Fe ddywedais wrtho pa mor lwcus oedd e’n dweud hynny yma, wedi’i amgylchynu gan bawb arall sy’n edrych yn union fel fe, ac mai fi oedd yr unig berson yma i amddiffyn fy hun.”


BBC News

Views: 0

See also  Low-income households to get help with heating fuel prices

Check Also

Y môr wrth galon taith Baton y Brenin o amgylch Cymru

 Gemau’r Gymanwlad yn dechrau’n Glasgow ymhen mis, mae Baton y Brenin wedi bod yn …

Four appear in court after two killed in Newport motorbike crash

Four people have been charged with conspiracy to pervert the course of justice following a …

WBO lightweight title: Joe Cordina v Abdullah Mason fight is off – Welshman cites visa issues

Joe Cordina’s WBO lightweight title fight against American Abdullah Mason is off with the Welshman …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment....