google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

George Jones, Llanrwst: Dyn llefrith ceffyl a chert olaf Cymru

Tu hwnt i’w waith fel dyn llefrith roedd Geore Jones yn ffermio ym Mhlas yn Dre yn Llanrwst (gyferbyn â gwesty’r Dolydd heddiw). Dyma’r unig fferm yn y dre.

Gan nad oedd tŷ ar y fferm roedd yn byw mewn tŷ teras ar John Street.

Roedd yn gymeriad lliwgar a phoblogaidd ar ei rownd lefrith ond hefyd yn y tafarndai lleol.

Meddai Eryl: “Pan oedd Taid yn wael fe wnaeth fy nhad y rownd am gyfnod gyda Nans.

“Mi oedd Nans yn gwybod y rownd yn union, a doedd yna ddim posib i Dad ddylanwadu ar y ceffyl, neu arwain Nans i unrhyw le.

“Oedd y ceffyl yn gwbod yn union be oedd y route efo stops gan gynnwys chwartar awr yng nghefn Tafarn y Fic, a chwartar awr yng nghefn tafarn y New Inn hefyd.

“Mi oedd Dad yn trio ei orau glas i symud y ceffyl ond oedd y ceffyl wedi ei programio i stopio yng nghefn y ddau pyb yma yng nghanol y rownd a doedd hi ddim am symud.

“Mi oedd Taid yn arfer mynd am riw hannar neu riw wisgi bach o be dwi’n ddalld ac mi oedd Nans yn gwybod yn union beth oedd y drefn!”


BBC News

Advertisements

See also  Wales breaks August bank holiday record with Hawarden hottest in UK

Check Also

Watch World Cup qualifying Highlights: Wales 3-0 Albania

Watch the best of the action as Wales beat Albania in Llanelli in the second …

Cymru drwodd i rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2027

Nid oedd rhaid aros yn hir wedi dechrau’r ail hanner tan fod Cymru wedi dyblu’r …

How Emma Finucane was inspired by Amy Hunt and Keely Hodgkinson

Finucane will now be putting together the final touches before this week’s World Championships, which …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime