google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am weithredu wrth i fwy o bobl ifanc wynebu digartrefedd

Cafodd Elliw ei magu yn Nhrawsfynydd, ond ar ôl gorffen yn yr ysgol, “o’n i’n edrych ar uni ac o’n i’m yn gw’bod be’ o’n i isio wneud – o’n i’m yn gw’bod pa path o’n i isio gymryd”.

“Roedd fy iechyd meddwl i jyst ‘di mynd yn isel, o’n i jyst yn fwy a mwy anxious bob dydd.

“Do’n i’m yn mynd allan o’r llofft, faswn i’m yn bwyta llawer, ac o’n i jyst yn bedrottio, basically.”

Roedd ei pherthynas gyda’i theulu yn dirywio, yn “teimlo lot o stress, cerdded ar plisgyn ŵy – roedd pob dim yn wrong“.

Yn y diwedd, ei mam awgrymodd y dylai Elliw chwilio am gymorth. Cafodd hi weithiwr cymdeithasol, wnaeth ei chyflwyno i weithdai GISDA.

Penderfynodd yr elusen, sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn y gogledd-orllewin, bod ganddi risg o ddigartrefedd, gydag Elliw yn teimlo y byddai’n rhaid iddi adael ei chartref, er mwyn pawb.

Cafodd hi gynnig fflat mewn adeilad llety â chymorth.


BBC News

Advertisements

See also  Girl, 5, walks to school for help after mum collapses

Check Also

Ateb y Galw: Keila – BBC Cymru Fyw

Ma’ gen i ddau. Un ydy pan oedda ni yn Llyn Llanberis un tro a …

Arestio dyn, 61, ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaergybi

Mae dyn 61 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi …

Cyffuriau, arian ac arfau wedi eu canfod mewn cyrchoedd beiciau trydan

Yn ôl yr Uwch-arolygydd Fox, roedd yna “atafaeliad sylweddol” ym Merthyr Tudful. “Ry’n ni wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime