google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am ‘ofod a pharch’ i artistiaid Cymru

Advertisements

Mae’r syniad o agor swyddfeydd ac adeiladau gwag yn Iwerddon yn galluogi artistiaid i weithio’n gyhoeddus ac nid y tu ôl i ddrysau caeedig eu cartrefi.

Mae Luned yn pwysleisio fod llefydd tebyg i’w cael yng Nghaerdydd ond nad oes dim yn yr ardal y mae hi’n gweithio ynddi yng Ngwynedd.

“Mae stiwdios yng nghanol y ddinas yng Nghaerdydd lle mae pobl yn gallu rhentu gofod am £80 y mis, a dyna sydd eisiau arnon ni yng Ngwynedd.

“Mae cymaint o fyfyrwyr ifanc a llawer yn mynd i ffwrdd i astudio celf ac maen nhw’n dod yn ôl i Wynedd ac yn gweithio mewn caffis.

“Does ‘na neb yn deud, dewch yn ôl i Wynedd, mae ‘na ofodau, mae ‘na ddigonedd o swyddfeydd gwag a lle i chi gyd-weithio,” meddai.

O ran y dyfodol fe esboniodd Luned y byddai hi’n hoffi gweld y gwagleoedd mewn adeiladau yn cael eu defnyddio gan artistiaid.

Mae hi’n teimlo bod llawer o’r orielau sy’n bodoli’n barod wedi’u troi i siopau sy’n denu twristiaid.

“Rydan ni’n cael orielau yma fatha siop yn gwerthu sebon a chanhwyllau oglau da.

“Ma’ hynna mor boring, dwi’n meddwl fod ‘na ddigon o siopau bach twristiaid i wneud hynna. ‘Da ni ddim isho hynna mewn oriel.

“Mae oriel i fod yn oriel a fysa fo’n well cael criw o artistiaid yna a chael eu gwaith celf nhw yno,” meddai.

Gofynnodd BBC Cymru Fyw i Gyngor Gwynedd am ymateb, ond doedd y Cyngor ddim am wneud sylw.

Cyn hir bydd gwaith Luned i’w weld yn Oriel Glynyweddw.

I wrando ar sgwrs Luned yn llawn ar raglen Llwyfan, cliciwch yma.


BBC News

See also  Ynys Môn: Pryderon ynglyn â lles gwartheg ar fferm

Check Also

Joe Worrall: Wrexham close in on deal for Burnley defender

Worrall started his career with Nottingham Forest and made 226 appearances for his boyhood club …

Therapydd harddwch wedi cael digon o gael ei thrin ‘fel gweithiwr rhyw’

Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Gwent ei bod yn “ddrwg gennym glywed am y profiadau …

Ateb y Galw: Elis Derby

Llyfr: One, Two, Three, Four: The Beatles In Time. Dwi’n addoli’r band a wedi darllen …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime