google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am gyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol safle hen ysbyty Aberteifi

Advertisements

Yn ôl Maer Aberteifi, y Cynghorydd Olwen Davies, dyw’r cwmni ddim wedi rhoi gwybodaeth ers tro am eu cynlluniau ar gyfer y safle.

“Beth fi ar ddeall yw bod nhw’n mynd i roi cais cynllunio newydd mewn – felly ‘dan ni ddim yn gwybod beth sydd yn hwnna eto, er mwyn i ni gael y drafodaeth.

“Y peth ni wedi bod yn trafod yw golwg y safle a bod e’n edrych mor wael.

“Mae’r Eisteddfod yn dod yn lleol, sydd yn dda iawn i’r ardal, ond yn anffodus bydd pobl yn dod mewn o ffordd Caerfyrddin a meddwl beth yw’r lle yma.”

Yn ôl Olwen Davies, mae hi’n cefnogi ceisio gwarchod yr hen adeilad o waith John Nash ond mae’r sefyllfa yn heriol oherwydd nad yw’r adeilad wedi ei gofrestru.

“Yn anffodus, dyw e ddim wedi cael ei gofrestru felly does dim dyletswydd ar y cyngor sir i ddweud bod rhaid i hwnna gael ei gadw.

“Mae fe’n mynd ar ei waethaf, felly efallai mai dymchwel fydd yr ateb er mwyn gwneud y safle yn fwy cadarn.”


BBC News

Views: 2

See also  Ynys Môn: Galw am gyfarfod brys yn sgil 'malu awyr' dros Wylfa

Check Also

Nations Championship: Fiji aim to create slice of Suva in Wales

Fiji will be favourites this weekend as they are ranked two places above Wales in …

Cardiff teenager jailed after driving car at couple and killing woman

A teenager who killed a woman by driving into her has been jailed for 17 …

Pryder am effaith Deddf Dedfrydu ar deulu dyn a laddwyd yn Sir Gâr

Mae Deddf Dedfrydu 2026 yn golygu y gall rhai carcharorion gymhwyso i gael eu rhyddhau’n …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime