google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am fwy o gefnogaeth i deuluoedd plant â chyflyrau gwaed

Advertisements

Jasper yw’r unig blentyn yng Nghymru ag APDS, ac mae Sophie yn dweud eu bod wedi gorfod cael “blynyddoedd o ymweliadau â’r ysbyty, camddiagnosis, a’i orfod gweld yn dioddef heb atebion” cyn cael diagnosis cywir.

Dywedodd fod Jasper yn aml wedi cael diagnosis ar gam o haint yn y frest, ond roedd ei fam yn gwybod yn ei greddf fod rhywbeth mwy o’i le.

Mae BBC Cymru hefyd wedi rhoi sylw i stori Dolcie-Mae, sydd hefyd wedi cael diagnosis o afiechyd gwaed prin yn dri mis oed [Erthygl Saesneg].

Mae ei theulu wedi gwneud ple am roddion bôn-gelloedd i geisio achub ei bywyd.

Dywed Sophie fod pobl yn aml yn tybio nad ydyn nhw’n gallu ymuno â’r gofrestr i roi bôn-gelloedd, gyda chofrestr Anthony Noan ar agor i bobl 16-30 oed yn unig.

Ond mae ‘na gofrestrau eraill ar gael.

Mae cofrestr DKMS yn derbyn rhoddion gan bobl hyd at 40 oed, tra bod Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn derbyn pobl hyd at 55 oed.

Dywedodd Sophie bod cymaint o gyfleoedd i bobl achub bywydau, ond bod nifer o bobl ddim yn ymwybodol o’u bodolaeth.


BBC News

Views: 1

See also  'Dydi canu'n Gymraeg ddim angen dal eich gyrfa yn ôl' - Mali Haf

Check Also

Women’s T20 World Cup: Nat Sciver-Brunt stars as India win boosts England’s preparation

ICC Women’s T20 World Cup warm-up, Cardiff England 171-6 (20 overs): Sciver-Brunt 57 (45); Patil …

Y BBC yn canslo rhifyn Nadolig eleni o’r gyfres Doctor Who

Ddydd Mercher, fe gyhoeddodd Russell T Davies ei fod yn gadael y rhaglen. Wrth nodi …

Arestio menyw ar ôl ymosodiad ym Mhontcanna

Mae dyn 57 oed yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl ymosodiad …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Contact information coconut point condos estero. Heavy equipment transport wake nc. Heavy equipment transport allegheny pa.