google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Cwblhau’r gwaith ar ffordd Blaenau’r Cymoedd wedi 23 blynedd

32853650 3d7e 11f0 af00 f94ff1cabcc0.png

Advertisements

Y gwaith o ddeuoli 11 milltir o’r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun oedd y cynllun cyntaf i gael ei gyflawni, gan ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

O dan y dull hwn dyfernir contractau i bartneriaid preifat i adeiladu a chynnal asedau cyhoeddus.

Yn gyfnewid am hyn, mae Llywodraeth Cymru yn talu ffi i’r datblygwr, a fydd yn talu cost adeiladu a chynnal a chadw’r prosiect, yn ogystal â’r llog.

Ar ddiwedd y cytundeb bydd yr ased yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus.

Yn achos yr A465, cost y gwaith oedd £590m.

Bydd Llywodraeth Cymru yn talu £40m y flwyddyn am 30 mlynedd, cyfanswm o £1.14bn.

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod y dull a ddefnyddiwyd i ariannu’r ffordd yn “wastraff arian cyhoeddus” a bod sawl cwmni preifat wedi elwa.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y gost a’r oedi yn “debyg i 25 mlynedd o fethiant Llafur yng Nghymru” ac fe ychwanegon nhw y byddai’r pris terfynol bron wedi talu am ffordd liniaru’r M4 o amgylch Casnewydd – lle mae tua phedair gwaith yn fwy o draffig dyddiol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai’r gwaith wedi ei gwblhau heb ddefnyddio y cynllun hwn.


BBC News

See also  Rhybudd am ragor o law trwm dros rannau o Gymru

Check Also

James Taylor aims to make Wales a force in deaf football

Wales – like England – are hoping to send a squad to compete in the …

Cyflwr iechyd plant Cymru yn ‘frawychus ac yn gwaethygu’

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae iechyd plant yn bwysig ofnadwy, a byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad …

‘Siawns am beint?’: Atgofion magwraeth yn nhafarn C’mon Midffîld

Mae C’mon Midffîld yn rhan o hanes y pentref, a dyna o bosib fydd tynged …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime