google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd am ragor o law trwm dros rannau o Gymru

Advertisements

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai glaw trwm achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru gyda rhybuddion melyn mewn grym.

Mae dau rybudd mewn grym ar gyfer nifer o ardaloedd yn y gogledd, y canolbarth a’r de.

Mae rhybudd melyn mewn grwm rhwng 18:00 dydd Sul a 15:00 dydd Llun – sy’n berthnasol i nifer o ardaloedd yn y gogledd a’r canolbarth.

Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd a Phowys yw’r siroedd sydd wedi eu cynnwys yn ardal y rhybudd.

Ond mae ail rybudd hefyd mewn grym ar gyfer dydd Llun, dolen allanol, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o rybuddion tywydd diweddar, a rhai dyddiau yn unig ar ôl i Storm Bram achosi problemau ar draws y wlad.

Yn ôl arbenigwyr, fe allai’r glaw ddydd Sul a dydd Llun arwain at lifogydd mewn mannau, yn ogystal â thrafferthion ar y ffyrdd.

Mae rhywfaint o amharu ar gyflenwadau trydan a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn bosib.

Mae disgwyl i rhwng 30-40mm o law ddisgyn yn eang o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 100mm yn bosib ar dir uchel.


BBC News

Views: 0

See also  Museum Wales: At least 90 jobs cut and Cardiff building may close

Check Also

‘Trist’ bod nifer siaradwyr Cymraeg Ystradgynlais wedi gostwng gymaint

Yn llyfrgell y dre mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd yn gyson. …

Starmer defence plans will cut Welsh budget, says first minister

The Welsh government added: “It is completely unacceptable that Welsh capital budgets which are already …

Cardiff video shows seagull ‘meeting’ and overflowing bins as students move out

Adan, from London, lived in Cathays while studying a masters degree in international relations. She …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Toggle google analytics.