google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am dynhau rheolau beiciau trydan wedi gwrthdrawiad ‘erchyll’

Ar ddydd Mawrth, 11 Tachwedd, fe aeth Sam Bevan allan at ei gar ar ôl rhoi ei swper yn y popty.

Munudau yn ddiweddarach fe ddeffrodd yng nghanol Fairoak Avenue ag yntau ddim yn cofio unrhyw beth am y digwyddiad.

Dim ond yn yr oriau wedi hynny – ar ôl iddo straffaglu adref gyda chrafiadau a thoriadau ar ei wyneb – y sylweddolodd bod rhywbeth o’i le.

“Roedd fy llystad yn gofyn i mi beth oedd dyddiad pen-blwydd fy mab a doeddwn i ddim yn cofio. Roeddwn i ychydig yn drist am hynny,” meddai.

Aeth Sam i Ysbyty Grange yng Nghwmbrân, gyda meddygon hefyd wedi’u drysu gyda’i anafiadau.

“Roedden nhw’n dweud wrtha’i na fyddwn i’n gallu gyrru am chwe mis, y byddai’n rhaid i mi gael profion ar fy nghalon a fy ymennydd ac roedd y cyfan yn ormod i mi mae’n rhaid i mi gyfaddef,” ychwanegodd.


BBC News

Advertisements

See also  Welsh NHS not 'fundamantally broken', says health minister

Check Also

Staff amgueddfeydd Cymru’n wynebu ymddygiad ‘erchyll’ gan ‘bobl blin’

Roedd yr ASau yn cynnal eu sesiwn graffu flynyddol gyda phrif weithredwr Amgueddfa Cymru a …

Referee Ben Whitehouse joins Wales coaching team for Nations Championship

Referee Ben Whitehouse has joined the Wales coaching team ahead of the upcoming Nations Championship …

Lluniau: Gŵyl Sŵn 2026 – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime