google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffrae rhwng y prif weinidog a phenaethiaid y GIG dros restrau aros

Mae Conffederasiwn GIG Cymru, sy’n cynrychioli uwch swyddogion yn y gwasanaeth iechyd, wedi ymateb yn chwyrn.

Dywedodd eu cyfarwyddwr, Darren Hughes: “Does neb eisiau darparu gofal a thriniaeth o’r ansawdd gorau i boblogaeth Cymru, a thrin y bobl sydd ar restrau aros yn gyflym ac effeithiol, yn fwy nag arweinwyr a staff y GIG.”

Dywedodd na ddylid ystyried rhestrau aros ar eu pen eu hunain ond “fel rhan o’r system iechyd a gofal gyfan”.

Mae pob bwrdd iechyd, meddai, yn wynebu “her enfawr” wrth ryddhau cleifion sy’n iach yn feddygol “oherwydd y pwysau aruthrol ym maes gofal cymdeithasol”, a hynny er gwaethaf eu hymdrechion i weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol.

“Mewn rhai ysbytai mae 20% o welyau ddim ar gael wrth i gleifion aros i adael yr ysbyty,” meddai Mr Hughes.

“Mae hyn fel ceisio rhedeg y GIG gydag un llaw wedi’i chlymu tu ôl i’ch cefn – rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol a darparwyr gofal ond mae’n rhaid i’r prif weinidog fod yn agored ynglŷn â maint yr her a beth sydd angen ei gywiro.”


Source link

Advertisements

See also  Vicki Sutton: Wales Netball and Cardiff Dragons chief to stand down

Check Also

Ospreys keep rotating for Challenge Cup opener at Black Lion

Full-back Edwards, who impressed for Wales at the World Rugby U20 Championship with his huge …

Taine Plumtree: Wales forward back for Scarlets against Newcastle in Challenge Cup

Plumtree, who faced Barbarians and Fiji with Wales in the summer, missed the start of …

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Llanuwchllyn

Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Bala …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime