google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffermwyr yn cael eu bygwth gan gangiau sy’n hela sgwarnogod

Mae Stephen Davies yn gweithio fel swyddog cymorth cymunedol gyda Heddlu De Cymru ym Mro Morgannwg gan weithio’n agos â ffermydd sy’n cael eu heffeithio gan gwrso sgwarnogod.

“Mae’n beth mawr ar y funud… a’r math o bobl sy’n dod mas yn hollol wahanol,” meddai.

Lle byddai pobl yn y gorffennol wedi parcio ar hewlydd a cherdded ar y caeau gyda’u cŵn, bellach roedden nhw’n gyrru’n uniongyrchol drwy gatiau gan greu difrod, meddai.

“Maen nhw’n distrywio bywydau pobl.”

Dywedodd bod mynd i’r afael â’r sefyllfa “yn bwysig iawn i’r heddlu”.

Roedd heddweision ar batrôl yn amlach ger ffermydd oedd yn cael eu targedu, meddai.

“Ni’n defnyddio’r offer adnabod rhifau cerbydau awtomatig, ry’n ni’n defnyddio’r drones a ry’n ni’n ffodus iawn yn y Fro bod helicopter yr heddlu yn Sain Tathan a ni’n defnyddio nhw hefyd yn y nos,” meddai.

“Ni’n datblygu’r berthynas gyda’r ffermwyr a blwyddyn diwetha’ fel welon ni lot mwy o bobl yn hala reports mewn ato ni o’i gymharu â’r flwyddyn cyn ‘ny.”

Bydd heddweision yn ymweld â sioeau amaethyddol gydol yr haf, ychwanegodd – gan gynnwys y Sioe Fawr a Sioe Bro Morgannwg – i siarad â’r diwydiant ynglŷn â’r broblem ac annog pobl i adrodd achosion a chynnig gwybodaeth.

Mae’r llu’n annog ffermwyr i gofrestru ar gyfer gwasanaeth De Cymru yn Gwrando, dolen allanol – sy’n eu galluogi i gael cyswllt â thimau heddlu yn y gymdogaeth, hefyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Omer Riza: Cardiff City boss criticises referee Durkin for Robinson red

Check Also

‘Ella un tymor arall’ i’r Queen of the Sea wedi 42 mlynedd ar y Fenai

Dywedodd Emrys, sy’n 76 oed ac wedi byw yng Nghaernarfon gydol ei oes, ei fod …

Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau yng Nghymru

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar gyfer Cymru …

Y ffenestri trawiadol sy’n dod â lliw i eglwysi Cymru

Mae gwydr lliw wedi cael ei ddefnyddio i addurno adeiladau yng Nghymru am dros 700 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime