google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffermwr o Ynys Môn yn osgoi carchar am droseddau lles anifeiliaid

Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar, wedi ei ohirio am 18 mis, am achosi dioddefaint i wartheg yn ddiangen yn dilyn marwolaethau pum anifail, gan gynnwys tri y bu’n rhaid eu difa.

Fe wnaeth Daniel Jones, 30, bledio’n euog fis diwethaf i 13 o gyhuddiadau, gan gynnwys achosi dioddefaint i wartheg, methu â sicrhau lles anifeiliaid a pheidio â chadw cofnodion cywir.

Bydd yn rhaid iddo hefyd gwblhau 120 o oriau o waith di-dâl a chyfres o weithgareddau ailsefydlu, yn ogystal â thalu £8,000 mewn costau.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno, fe ddisgrifiodd y Barnwr Timothy Petts yr achos fel un “difrifol o esgeulustod hir i lu o anifeiliaid a arweiniodd, ar adegau, i’w marwolaethau”.

Ond fe ychwanegodd nad oedd yn credu ei fod “yn achos o greulondeb bwriadol” ac y gallai Jones fod “yn ffermwr gwell yn y dyfodol” wedi buddsoddiad sylweddol yn y fferm.


Source link

Views: 1

See also  Cadeirydd 'ddim yn gwybod' am gynllun i drin cleifion yn Lloegr

Check Also

Dau AS Llafur o Gymru yn galw ar Keir Starmer i ymddiswyddo

Dywedodd Tonia Antoniazzi ar ei chyfryngau cymdeithasol brynhawn Llun ei bod hi hefyd yn galw …

Alice Griffiths: Wales midfielder quits professional game at 25

Wales midfielder Alice Griffiths has announced her retirement from the professional game at the age …

Tad Rhun ap Iorwerth 'methu credu' llwyddiant Plaid Cymru

Tad Rhun ap Iorwerth “methu credu” llwyddiant Plaid Cymru, gyda’i fab yn debygol o gael …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime