google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffermwr £71,000 ar ei golled wedi i Hufenfa Mona fynd i’r wal

Dywedodd Ronald Akkerman, prif weithredwr ac un o gyd-sylfaenwyr yr hufenfa, fod cyfanswm o £1.6m yn ddyledus i ffermwyr.

“Mae’r sylfaenwyr yn gweithio gyda’r unigolion perthnasol i baratoi cynllun achub,” meddai.

“Y cynharaf y bydd modd i ni ddod i gytundeb, y cynharaf gallwn ni roi eglurder i’n ffermwyr.

“Y nod yw dod i hyd i ddatrysiad fydd yn cynnwys cynnig ariannol i’r ffermwyr, ond mae hynny’n rhywbeth sydd i’w gadarnhau.

“Mae gan y gweinyddwyr dau gredydwr mawr, felly mae’r tebygrwydd y bydd arian yn cael ei dalu i gredydwyr sydd heb eu cadarnhau yn fach iawn.

“Bydd y gweinyddwyr yn cysylltu â’r ffermwyr yr wythnos hon. Mae tua £1.6m yn ddyledus i’r ffermwyr am tua thair wythnos o gyflenwad llaeth.”

Ychwanegodd Mr Akkerman eu bod yn benderfynol o wneud popeth yn eu gallu i ddod â’r cwmni allan o ddwylo’r gweinyddwyr a’i wneud yn weithredol unwaith eto.


Source link

Views: 3

See also  Kiran Carlson: Glamorgan skipper picked for The Hundred bow by London Spirit

Check Also

Cyngor Sir Gâr wedi methu cydymffurfio â safonau iaith wrth gau ysgol gynradd

Mae Cyngor Sir Gâr wedi methu cydymffurfio â safonau’r iaith gyda’u penderfyniad i gau Ysgol …

Rhaid i gwmni peilonau roi gwell rhybudd cyn cael mynediad i dir – Uchel Lys

Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru bod y dyfarniad “yn rhoi eglurder ynghylch defnyddio …

Arestio dau yn dilyn gwrthdrawiad sawl cerbyd sydd wedi anafu plentyn pump oed

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn sgil gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd a arweiniodd at …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Toyota altezza initial d tribute. Used to monitor number of google analytics server requests. solar product guides.