google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 22 2026

‘Fe dreuliais noson ein priodas yn gamblo hanner ein harian’

A hithau bellach yn byw yn nhref glan môr Y Rhyl yn y gogledd, dywedodd Elissa fod yna siopau betio, casinos ac arcedau o amgylch ei fflat – a’i bod yn poeni am nifer y lleoedd tebyg sy’n agor mewn ardaloedd tlotach.

Mae ymchwil gan BBC Cymru yn awgrymu bod tua un o bob pum safle gamblo wedi’u lleoli yn ardaloedd tlotaf Cymru.

Roedd 71 eiddo gamblo yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig – o gymharu ag wyth yn y 10% lleiaf difreintiedig.

“Pobl sydd ar incwm is fydd yn ceisio gamblo i wneud mwy o arian iddyn nhw eu hunain,” meddai Elissa, sy’n wreiddiol o Fanceinion.

“Does ‘na ddim angen y nifer yna mewn un ardal, achos fe allech chi wneud hunan-waharddiad, ond fyddai hynny ddim yn gwneud gwahaniaeth o ran arcedau neu ganolfannau gemau oedolion.”

Dywedodd Elissa nad oes modd iddi osgoi cerdded heibio i siopau betio, ond mae hi’n osgoi hyd yn oed edrych ar beiriannau hapchwarae os ydy hi’n cael cinio mewn tafarn, er enghraifft, am ei bod yn poeni y gallai rhywun feddwl ei bod yn gamblo eto.


Source link

Advertisements

See also  'Nid Sci-Fi mo hwn bellach' - y prawf allai drawsnewid triniaeth canser Cymru

Check Also

Derek Brockway i adael ei rôl gyda’r BBC wedi 30 mlynedd

Ar ôl bron i 30 mlynedd, mae un o gyflwynwyr tywydd mwyaf adnabyddus BBC Cymru …

Ereatara Enari: Dragons scrum-half suffers injury ahead of URC opener at Benetton

Dragons will also be without lock Levi Douglas for several weeks after he suffered a …

Athro Bro Preseli wedi taro disgybl ac yfed alcohol ar daith tramor – gwrandawiad

Yn dilyn y daith yn 2024, fe wnaeth Martin Edwards – yr unig athro arall …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime