google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Farage: ‘Wedi fy syfrdanu pan blediodd Gill yn euog o lwgrwobrwyo’

Advertisements

Wrth ymgyrchu, ddydd Gwener, ar gyfer isetholiad Senedd Caerffili – sydd i’w gynnal ar 23 Hydref – fe wnaeth Nigel Farage ymateb yn gyhoeddus am y tro cyntaf i achos llwgrwobrwyo Gill.

“Roeddwn i wedi adnabod y person yma ers amser maith iawn, roeddwn i’n ei adnabod yn Senedd Ewrop yn nyddiau UKIP fel Cristion hynod o grefyddol – rhywun y byddech chi’n meddwl amdano fel y person lleiaf llygredig allech chi fod yn ei adnabod,” meddai.

Wrth gael ei holi a oedd yn gwybod am Gill yn gwneud datganiadau o blaid Rwsia, dywedodd Farage: “Doeddwn i ddim yn gwybod dim am hynny.

“Y cyfan roeddwn i’n ei wybod oedd ei fod wedi bod yn Wcráin. Dywedodd ‘rydym yn mynd ar ymweliad ag Wcráin, ydych chi eisiau dod?’

“Atebais i ‘rydych chi’n wallgof, dyma un o’r gwledydd mwyaf llygredig yn y byd, mae’n rhaid eich bod chi’n wallgof’.

“A dywedais wrtho am beidio â mynd.

“Fe heriodd fi ac aeth. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw ddatganiadau a wnaeth.”

Mae bargyfreithiwr sy’n amddiffyn Gill wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd yn cael ei garcharu am ei droseddau.

Mae is-etholiad Caerffili ar gyfer bod yn aelod yn y Senedd yn cael ei gynnal ar 23 Hydref wedi marwolaeth sydyn yr aelod Llafur, Hefin David, ym mis Awst.


BBC News

Views: 1

See also  Abortion at 15 'changed my life', says Wales Green Party candidate

Check Also

Michael Sheen stars in UFO comedy after spooky sighting in Port Talbot

When Sheen returned to the area with his family in 1977, having lived for a …

Junior World Championship: Wales U20’s Steff Emanuel ready for next step at Cardiff

Emanuel has featured in every Wales Under-20s fixture this season and lines up in midfield …

Logan Mwangi: Mam a laddodd ei mab, 5, yn gobeithio am adolygiad o’i hachos

Yn dilyn gwrandawiad ddydd Mercher, dywedodd Tony Thompson wrth BBC Cymru bod Williamson wedi cysylltu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfliq strawberry raspberry cherry ice nikotinsalz liquid 10 mg/ml nikotin. Electronics, computer science, information technology, form started. elfbar elfliq liquid.