
Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i achosion o Covid-19 dan y chwyddwydr brynhawn Iau pan fydd ymchwiliad cyhoeddus yn dod i farn ynghylch “penderfyniadau gwleidyddol allweddol” ar draws y DU yn ystod y pandemig.
Rhwng 2020 a 2024 roedd dros 12,000 o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â’r feirws.
Dyma fydd ail adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU, sy’n archwilio penderfyniadau llywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ymhlith y cwestiynau tebygol dan ystyriaeth yw a wnaeth Llywodraeth Cymru werthfawrogi’n ddigonol maint bygythiad y feirws yn y cyfnodau cynnar, a gwneud digon i ddiogelu cleifion hŷn a bregus?
Beth wedyn am y cyfnodau pan roedd cyfyngiadau gwahanol naill ochr i Glawdd Offa? A beth yw barn yr ymchwiliad am natur y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a San Setaffan?
Tra’n casglu tystiolaeth ar gyfer y modiwl hwn, cafodd tair wythnos o wrandawiadau eu cynnal yng Nghaerdydd ddechrau 2024, lle clywodd yr ymchwiliad gan wleidyddion, gweision sifil, arbenigwyr iechyd a phobl a gollodd anwyliaid.
Dwi wedi bod holi rhai o’r teuluoedd hynny a gweithwyr iechyd ar drothwy cyhoeddi’r canfyddiadau.
BBC News