google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ergyd gyfreithiol i ymgyrchwyr ail gartrefi Gwynedd

Mae ymgyrchwyr sy’n lobïo yn erbyn mesurau sy’n golygu bod angen caniatâd cynllunio i drosi eiddo i fod yn ail gartref wedi derbyn ergyd i’w gobeithion cyfreithiol.

Gwynedd yw’r awdurdod cyntaf i wneud defnydd o’r rheoliadau sy’n cael eu hadnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r hyn mae’r cyngor wedi ei ddisgrifio fel “argyfwng tai”.

Ond ar ôl lansio her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad, mae’r grŵp Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4 wedi cadarnhau nad oes caniatâd wedi’i roi gan farnwr i ddwyn adolygiad barnwrol drwy’r uchel lys.

Roedd y barnwr wedi dod i’r casgliad bod yr awdurdod lleol wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn “ymchwil cadarn a thrylwyr” ac nad oedd modd dadlau yn erbyn eu rhesymeg.

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiwygio rheolau cynllunio wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd – sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.

Daeth penderfyniad Gwynedd i fanteisio ar y mesurau i reoli defnydd tai fel ail gartrefi i rym ym mis Medi eleni.


Source link

Views: 4

See also  European Challenge Cup: Lyon v Cardiff - debut for teenager Emmanuel

Check Also

Tom Jones had shoes and socks stolen by fans, recalls The Script star

Sir Tom Jones was paddling in the sea in Dublin when fans made off with …

Man accused of being in child sexual exploitation ring says 15-year-old consented

Ziaullah Badshah is one of five people who deny claims around the sexual exploitation of …

Ethol esgob newydd Bangor wedi deuddydd o drafod

Mae’r Tra Pharchedig Manon Ceridwen James wedi cael ei hethol yn esgob newydd Bangor. Ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
heavy equipment transport montgomery md. Just a moment.... Heavy equipment transport genesee mi.