google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Enwau uniaith Gymraeg ar etholaethau’r Senedd ‘ble mae modd’

Daeth Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), dolen allanol yn gyfraith ar 24 Mehefin 2024.

Mae’r ddeddf yn dweud bod “rhaid i bob etholaeth Senedd gael enw unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol”.

“Os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.”

Yn gynharach eleni fe wnaeth pwyllgor biliau diwygio Senedd Cymru alw am “enw uniaith ar bob un o etholaethau’r Senedd” ac “mai yn Gymraeg yn unig y caiff enw etholaeth fod os rhoddir enw uniaith iddi”.

Bydd 16 etholaeth, gyda chwe Aelod o’r Senedd yn cynrychioli pob un.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wrth y BBC: “Ble mae modd, byddwn yn defnyddio enw uniaith, ond os bod y Comisiwn yn teimlo bod angen enw Cymraeg a Saesneg bydd yna gyfieithiad.

“Byddwn yn defnyddio enwau sydd yn naturiol ar gyfer ardal (e.e. Clwyd) os yn bosib, ac yn cyfuno enwau’r etholaethau San Steffan fel arall (e.e. Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr).”


Source link

Views: 1

See also  Beth ddysgon ni am gyfryngau cymdeithasol yn ystod yr etholiad?

Check Also

Racist killers sentences referred to Court of Appeal and drug dealer attacked in French jail

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

T20 Blast: Somerset beat Hampshire on 2026 opening night – round-up of Friday’s nine matches

Yorkshire, who have never lifted the domestic T20 trophy, successfully chased 168 to beat Notts …

T20 Blast: Parfitt’s 86 leads Glamorgan to convincing win at Gloucestershire

Glamorgan went into the game unbeaten in six One Day Cup and T20 County Cup …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime