google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ennill yn regata Henley… ar ôl dim ond tair blynedd o rwyfo

Doedd yna ddim llawer o gyfleoedd rhwyfo yng ngogledd Cymru pan oedd o’n tyfu i fyny, eglurodd Cedol, sy’n dod o Fangor yn wreiddiol, felly doedd o ddim yn rhywbeth roedd yn gwybod llawer amdano.

Nofio oedd ei gamp o, tan iddo fynd i’r brifysgol yng Nghaerfaddon, a rhoi cynnig ar rwyfo. Ac mae’r penderfyniad wedi talu ar ei ganfed, eglurodd wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

Yn Henley Royal Regatta ddechrau Gorffennaf, roedd Cedol, sy’n 23 oed, ymhlith 780 o gychod o ryw 30 gwlad wahanol a oedd yn cystadlu yn y ras fyd-enwog.

“Llynedd, ‘naethon ni golli’r rownd gynta, felly dwi ddim wedi cael lot o brofiad o Henley tan flwyddyn yma,” meddai. “‘Naethon ni golli flwyddyn dwytha, a do’n i’m yn licio’r teimlad yna o gwbl, so aethon ni yna eleni i ‘neud o’n iawn!”

Ac mi gadwodd at ei addewid, wrth iddo ef a’i bartner, Jamie Gare ennill y fedal aur yn y categori Double Sculls, a churo dau a oedd o fewn trwch blewyn i gynrychioli UDA yn y Gemau Olympaidd eleni.


Source link

Views: 0

See also  Welsh Water to pay £44.7m after 'unacceptable' sewage failures

Check Also

Ateb y Galw: Carrie Sauce

Enillydd ail gyfres Y Llais sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw. BBC News Views: 2 …

Y rhwystrau sy’n wynebu ymgeiswyr anabl wrth sefyll mewn etholiad

Mae Toby Jones, 44, yn ymgeisydd i’r Ceidwadwyr Cymreig dros Gasnewydd Islwyn ac mae’n dad …

Pryder bod pentref yn troi’n ‘ynys’ ynghanol paneli solar

Dywedodd Reform UK: “Am yn llawer rhy hir mae llywodraethau Llafur olynol, wedi’u cefnogi gan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
biolinker marketplace | smart match products & earn from every sale.