google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Endaf Emlyn: ‘Anodd ymweld â chyfnodau tywyll’ ond pwysig

Yn yr hunangofiant Salem a Fi fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Hydref mae yna gyfeiriadau hefyd at ddyddiau cynnar Endaf Emlyn yng Nghaerdydd – yn cychwyn gweithio ar raglenni cerddoriaeth yn y BBC a HTV ac yna yn mentro i Lundain i chwilio am label recordio.

“Doedd ‘na ddim llawer o recordiau canu poblogaidd Cymraeg bryd hynny a doedd na chwaith ddim llawer o labeli yn cyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg.

“Felly, yn 1970, mi es i Lundain gyda thâp chwarter modfedd yn fy llaw, gyda’r gobaith o ennill fy mara menyn fel cyfansoddwr caneuon.

“Trwy Tony Hatch a’i gwmni cyhoeddi M&M, mi gafodd fy ngwaith ei gyflwyno i’r bobl bwysig yn EMI, ac fe gefais gytundeb pedair record sengl ar label Parlophone – yr un label â’r Beatles.”

Bu’n recordio caneuon yn Abbey Road, ond collodd ffydd yn y diwydiant mympwyol gyda’r labeli mawr yn Llundain, a sylweddolodd yn eithaf buan ei fod yn cael llawer mwy o foddhad yn cyfansoddi caneuon yn y Gymraeg, am lefydd a phobl yng Nghymru.

Mae’r llyfr yn rhannu cefndir amryw o recordiau mwyaf llwyddiannus Endaf Emlyn, gan gynnwys ei record hir gyntaf, Hiraeth, a’r ddwy albwm boblogaidd Syrffio Mewn Cariad a Dawnsionara.

Mae hefyd yn rhannu hanesion am gyfnod y ‘siŵper grŵp’ Cymraeg, Injaroc, a’u hanesion yn teithio o amgylch Cymru cyn i’r grŵp chwythu ei blwc.

Mae cyfweliad Endaf Emlyn i’w glywed yn llawn ar Bwrw Golwg am 1230 ddydd Sul 20 Hydref ac yna ar BBC Sounds.


Source link

Views: 1

See also  Dau arall wedi'u harestio ar ôl i gi XL Bully ladd babi

Check Also

Hayden Mullins names Kyle Cameron as Newport County club captain

Kyle Cameron has been named Newport County captain just six weeks after returning to the …

Beirniaid yr Eisteddfod yn ‘sarhaus’ drwy ddisgrifio nofel awdur fel un gan AI

Dywedodd Meinir Wyn Edwards yn y feirniadaeth: “Does dim cynllun na bwa storïol yn y …

Wrexham news: Improving key for Parkinson as Wrexham bid to go one better

Parkinson has added full-back Danny Imray and central midfielder Ben Whiteman to his ranks ahead …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar 600 apple peach elf bar elfbar buy elfbar 5000 buy elfbar elfbar disposable store.