google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Elan Closs Stephens wedi diolch am gyfraniad Huw Edwards er ei arestio

Wrth drafod ei bywyd a’i gyrfa ar raglen radio Beti a’i Phobol – gafodd ei recordio ar 2 Gorffennaf, dair wythnos cyn datgelu manylion y cyhuddiadau – dywedodd y Fonesig Elan ei bod “yn falch o ddiolch yn bersonol i Huw am y cyfraniad enfawr [mae wedi ei wneud] ac yn wir am yr holl sgiliau mae wedi arddangos ar gyfer pobl sydd yn dod ar ei ôl”.

Wrth drafod yr honiadau gwreiddiol am fywyd personol Edwards ym mhapur newydd The Sun, gyhoeddwyd fis Gorffennaf y llynedd – cyn unrhyw gyhuddiadau troseddol yn erbyn y cyflwynydd, dywedodd y cyn-gadeirydd:

“Roedd hi yn stori drist ac roedd hi’n amlwg fod papur newydd The Sun yn mynd i wneud y mwyaf o’r achlysur oherwydd oedd Huw druan yn ddyn mor adnabyddus.

“Wrth gwrs, roedd marwolaeth y Frenhines, angladd y Frenhines a’r Coroni – roedd y cyfan wedi digwydd o fewn ychydig fisoedd.

“Y peth cyntaf oedd gwneud yn saff bod Huw yn iawn a bod y teulu yn cael gofal a diogelwch.

“Yn fwy na hynny, alla i ddim sôn. Mae’n amlwg eu bod nhw wedi dod nawr, ar ôl fy amser i i gytundeb ac mae hwnnw hefyd yn fater preifat.”


Source link

Advertisements

See also  Isabelle Boffey sets second fastest GB indoor 800m time

Check Also

House with no roof in Yr Wyddfa, Gwynedd up for sale for £17k

With property prices soaring in recent years, the idea of buying your own home for …

Welsh Secretary Stephen Kinnock claims Plaid Cymru ‘holding up investment’

Elsewhere in his speech, Kinnock said he was committed to reindustrialising communities and called for …

Nations League: Craig Bellamy ‘hurting’ as Wales outclassed by Denmark

Denmark dominated early on and saw Mikkel Damsgaard fire against the post shortly after Isaksen …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime