google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Jonathan Davies

Advertisements

Ar ddechrau 2020 roedd Jonathan yn fyfyriwr yn Llundain yn astudio cerddoriaeth, pan benderfynodd bod yn rhaid iddo ddechrau dysgu Cymraeg.

“O’n i jest yn teimlo fel o’n i ddim yn really cysylltu â fy ngwreiddiau efallai.

“Odd cyn-gariad fi a fy ffrind gorau ar y pryd, o’n nhw’n gallu siarad Cymraeg.

“So, weithiau o’n i’n mynd mas, o’n nhw’n dechrau sgwrsio am bobl eraill, a wedyn o’n i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.

“So ie, nes i penderfynu bod rhaid dechrau dysgu.”

Roedd ei deulu ar ochr ei dad yn siarad Cymraeg ddegawdau yn ôl, ond yn y 1960au penderfynwyd peidio â throsglwyddo’r iaith ymlaen i’w dad.

Mae Jonathan bellach yn cael ei gyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ymchwilio i addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, gan gyfweld â nifer o athrawon a phlant, ac arsylwi dosbarthiadau yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Mae hefyd wedi cynhyrchu podlediad ymchwil Cymraeg, podlediad i ddysgwyr, a chyda’i grŵp ysgrifennu fe sefydlodd wefan Daliwch Ati, dolen allanol i ddysgwyr.


BBC News

Views: 1

See also  Caerdydd: Dyn yn cyfaddef ceisio herwgipio mewn parc dŵr i blant

Check Also

Commonwealth Games 2026: Team Wales captain Olivia Breen claims sprint silver

Team Wales captain Olivia Breen earned the first Welsh medal of the Glasgow Commonwealth Games …

‘Dylai triniaeth arloesol canser y prostad fod ar gael yng Nghymru’

Dydy’r corff sy’n cymeradwyo triniaethau ar y gwasanaeth iechyd, NICE, ddim wedi rhoi sêl bendith …

Phoebie Poole: Wales striker joins English second-tier side Watford women

Wales striker Phoebie Poole has joined Watford women as they prepare for life after being …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfx kit silver pink.