google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dysgwr y Flwyddyn 2025: Cwrdd â Rachel Bedwin

Bron ar hap a damwain y daeth Rachel, sy’n wreiddiol o ardal Bromley, ar draws y Gymraeg tra’n fyfyriwr yn astudio bioleg yng Nghaergrawnt.

“Oedd fy ffrind yn dysgu Cymraeg ar Duolingo. Nes i feddwl y byddai’n beth hwyl i’w wneud i ddysgu iaith newydd,” meddai.

“O’n i ond yn disgwyl iddo bara am yr haf, ond ‘naeth o sticio a nes i weithio i ddysgu’r iaith a dod yn rhugl.”

Heblaw am ddarllen Under Milk Wood tra’n yr ysgol, prin oedd ymwybyddiaeth Rachel o Gymru a’r Gymraeg cyn hynny.

“Nes i ddod i Eryri ar wyliau gweithio oherwydd roeddwn yn gwneud Gwobr Dug Caeredin… gyda thîm llwybrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am wythnos,” meddai.

“Nes i weld y ceidwaid yn defnyddio’r iaith yn eu gwaith a nes i fwynhau’r gwaith gymaint, oeddwn eisiau mynd adref, gweithio ar fy Nghymraeg a dod yma i weithio.”


BBC News

Advertisements

See also  Tourism tax could help Cardiff host events, says council leader

Check Also

Cyfyngu ar nifer ymwelwyr ysbyty wedi achosion o’r clefyd crafu

Mae ysbyty yn Sir Gâr wedi cyflwyno cyfyngiadau mewn ymateb i achosion diweddar o’r clefyd …

Flying Start brand to be ditched for two-year-old childcare in Wales

The Welsh government has asked councils to rebrand the childcare they provide for two-year-olds, dropping …

Côr cymunedol yn dathlu pen-blwydd Pont Pen Llyn ym Mrynrefail yn 200

Dros y penwythnos fe gasglodd trigolion lleol ar bont Pen Llyn ym Mrynrefail ger Llanberis …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime