google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Dysgwr 11 oed yn teithio o Slofacia i ymweld â’r Eisteddfod

Mae cael siarad Cymraeg ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd wedi bod yn “brofiad cwbl arbennig” medd bachgen 11 oed o Slofacia.

Mae Matko yn byw yn Poprad, yn nwyrain Slofacia, ac yn ogystal â siarad Cymraeg mae e wedi cael cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb â’i athrawes Cymraeg ar faes y Steddfod.

Sioned Rees Jones wnaeth sefydlu Ysgol Sadwrn yn 2023, ac mae yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg rhyngwladol ar-lein i blant.

Wrth siarad â Cymru Fyw ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Sioned ei bod wrth ei bodd yn cyfarfod Matko.

“O’dd hi mor wych bod bachgen sydd wedi bod yn dod i Ysgol Sadwrn ers y cychwyn cyntaf wedi dod i’r Eisteddfod ac i ni gael cyfarfod wyneb yn wyneb, gyda’i dad.

“Mae wedi teithio yma ar wyliau, dod i Gaerdydd ac yna treulio deuddydd yn yr Eisteddfod.”


Source link

Advertisements

See also  Swansea City: Why Luke Williams is set for busy transfer window

Check Also

Seiclo 800km i helpu teulu ffrind gorau ei fab frwydro cyflwr prin

Ac mae hyn er gwaetha’r ffaith bod Dean yn byw gyda Duchenne Muscular Dystrophy, cyflwr …

‘Mae gorfod cael yr heddlu i redeg gyda ni yn dangos maint y broblem’

Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i fenywod wneud ffrindiau newydd, cael cefnogaeth a mwynhau rhedeg …

Agor hen glo yn datrys dirgelwch ar ôl 400 mlynedd

Dywedodd Dr David Williams, cydymaith ymchwil yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, ei fod yn “amheus” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime