google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes wedi marw ar ôl disgyn tu allan i feddygfa yn Ninbych – cwest

Advertisements

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun bod Ian Adams wedi parcio ei gar Range Rover yn un o’r ddau safle parcio i feddygon ym Meddygfa Bronffynnon, er mwyn i’w fam, oedd ddim yn gallu cerdded yn dda, fod mor agos at y drws â phosib.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y gwrandawiad, dywedodd Mr Adams, oedd yn ofalwr i’w fam, ei fod o wedi cerdded gyda’i fam rownd cefn ei gerbyd, a’r un oedd wedi ei barcio drws nesa’ iddo, gan ei gadael tua 4 troedfedd o ddrws y feddygfa er mwyn symud ei gar i faes parcio arall.

Disgrifiodd Mr Adams sut y gwnaeth symud ei gar yn ôl, gan edrych am draffig ar y ffordd, a dywedodd nad oedd wedi gweld ei fam, ac nad oedd “wedi teimlo unrhyw ergyd, ddim wedi teimlo unrhyw beth”, ac nad oedd synwyrwyddion y car wedi canu.

Dangosodd lluniau camera oddi ar gerbyd arall oedd wedi troi ar y ffordd, bod Mrs Adams yn gorwedd ar y llawr a cherbyd Mr Adams yn gyrru i ffwrdd.

Sylweddolodd staff yn y feddygfa bod dynes yn gorwedd ar y llawr yng nghefn yr adeilad, ac fe gafodd ei chludo i mewn i’r feddygfa i gael ei thrin wrth alw am ambiwlans.

Dim ond pan glywodd ei fam yn dweud wrth staff ei bod wedi disgyn a bod cerbyd wedi ei tharo y sylweddolodd Mr Adams beth oedd wedi digwydd.

Dywedodd un meddyg yn y practis, Dr Sian Glover, bod gan Mrs Adams anaf i ochr ei hwyneb.

Ychwanegodd ei bod yn ymwybodol bod Mrs Adams yn glaf oedd â phroblemau symudedd, ac a oedd yn disgyn yn gyson.

Cafodd Mrs Adams ei chludo’n wreiddiol i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, cyn cael ei throsglwyddo i Ysbyty Brenhinol Stoke.

Cafodd lawdriniaeth am doriadau i’w hasennau, ond oherwydd cyflwr osteoporosis roedden nhw’n rhy denau, a dim ond un asen oedd yn bosib ei thrin.

Bu farw Mrs Adams 10 diwrnod yn ddiweddarach ar 28 Chwefror, a hynny oherwydd trafferthion anadlu yn sgil y toriadau yn ei hasennau, a’r ffaith ei bod yn fregus.


BBC News

Views: 1

See also  Virgin confirms man fell from its hot air balloon in West Sussex

Check Also

Cyhoeddi enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd

Mae Dafydd yn 19 oed ac yn dod o bentref Llanbedrog ym Mhen Llŷn. Yn …

Metal detectorist finds WW2 soldier's silver cigarette case hundreds of miles from where he died

Stan Drew’s cigarette case turns up in a Netherlands field, about 370 miles from where …

Ben Davies: Wales defender should have Tottenham Hotspur future – Gary Mabbutt

Former captain Gary Mabbutt hopes Ben Davies will have a future at Tottenham Hotspur after …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
"jasa pasang paving block per meter realcon".