google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes o Gaerdydd yn gwadu stelcian teulu Madeleine McCann

Cdc5af70 1f68 11f0 9d32 873ec5346547.jpg

Mae dynes 60 oed o Gaerdydd wedi gwadu cyhuddiad o stelcian teulu Madeleine McCann.

Diflannodd Madeleine yn dair oed yn ystod gwyliau gyda’i theulu ym Mhortiwgal yn 2007, ac mae’r achos yn parhau heb ei ddatrys.

Fe blediodd Karen Spragg, o ardal Caerau yng Nghaerdydd, yn ddieuog i gyhuddiad o stelcian gan achosi braw neu drallod difrifol mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerlŷr ddydd Mawrth.

Honnir fod Ms Spragg wedi cyflawni’r drosedd rhwng 3 Mai 2024 a 21 Chwefror eleni.

Mae dynes arall, Julia Wandel o Wlad Pwyl, hefyd wedi pledio’n ddieuog i bedwar cyhuddiad yn ymwneud â stelcian y teulu, mynd i’w cartref ac anfon llythyr a negeseuon atynt.

Mae disgwyl i’r achos yn erbyn y ddwy ddechrau ar 2 Hydref.


BBC News

Advertisements

See also  Nofio'r Sianel i brofi bod posib 'bownsio nôl' wedi iselder

Check Also

Haverfordwest woman spent £7k of council money on Amazon and rent

A gambling addict with previous convictions for fraud and theft swindled almost £7,000 from the …

Katie Owen a’i chariad newydd at yr iaith a diwylliant Cymraeg

Mae Katie yn cydnabod dylanwad ei thad arni, sef y cynhyrchydd a’r actor Jonny Owen, …

Macs Page: Scarlets wing called up by Wales after Rio Dyer injury blow

Dragons wing Rio Dyer has been released from the Wales squad for the Nations Championship …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime