google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dyna un ffordd o fod yn enwog,’ meddai disgybl, 14, ar ôl trywanu

Gofynnodd y ferch i’r swyddog: “Fel [sut] alla i wynebu fy nheulu ar ôl be dwi wedi gwneud?”

Ychwanegodd: “Hynny yw, os ydyn nhw’n troi lan.”

Gwelodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng (CCTV) o’r munudau cyn yr ymosodiadau oedd yn dangos y diffynnydd yn eistedd yn neuadd yr ysgol.

Cafodd y ferch ei gweld yn eistedd o amgylch bwrdd gyda chriw o ddisgyblion, yn dangos cyllell yn ei phoced.

Funudau’n ddiweddarach mae’n cerdded tu allan tuag at Liz Hopkin a Fiona Elias ac yn dechrau trywanu Ms Elias.

Gwelwyd Ms Elias yn dianc cyn i’r ferch droi at Liz Hopkin a dechrau ei thrywanu hithau.

Mae’r deunydd CCTV yn dangos y diffynnydd yn rhedeg tuag at ddisgybl a’n gweiddi arni, cyn ei thrywanu.

Cafodd fideo gan ddisgybl ar ap Snapchat ei ddangos hefyd, yn dangos y foment cafodd y disgybl ei thrywanu gan ferch 14 oed.

Roedd y fideo yn dangos plentyn yn cyfeirio at ddisgybl a’n dweud: “Mae hi newydd gael ei thrywanu.”

Dangosodd y fideo olygfa swnllyd gyda nifer o blant o gwmpas, ac athrawes, Alexandra McNeill yn gweiddi: “Ewch yn ôl nawr.”


Source link

Views: 0

See also  Which Wales players could move in the summer transfer window?

Check Also

Hosts Wales bow out of U19 Euros with Denmark defeat

Wales’ hopes of securing a Fifa Under-20 World Cup play-off place were ended after a …

Wales trio Phillips, Neumann and Fleming to leave Harlequins

Wales internationals Carys Phillips, Lisa Neumann and Abbie Fleming will leave Harlequins at the end …

Ffordd yng nghanol Abertawe ar gau ar ôl i dân achosi mwg du

Mae ffordd yng nghanol Abertawe wedi cau wedi i dân mewn safle diwydiannol achosi cwmwl …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
bp batam tinjau kesiapan asrama haji jelang musim haji 2025.