google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn pledio’n euog i drosedd hiliol yng Nghaernarfon

Mae dyn 36 oed wedi pledio’n euog i drosedd yn ymwneud â hiliaeth yn dilyn digwyddiad yng Nghaernarfon.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Gwener, plediodd Michael Owen Williams yn euog i drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, wedi’i gwaethygu gan hiliaeth.

Fe blediodd Williams, o Ddolfor ger Pwllheli, yn euog hefyd i ail gyhuddiad o fynd yn groes i orchymyn atal troseddau rhyw.

Ni chlywodd y llys fanylion pellach am y cyhuddiadau, ond mae’r troseddau yn ymwneud â digwyddiad ar Stryd Llyn ar 9 Awst.

Fe ymddangosodd Williams yn y llys drwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn Wrecsam.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno ar 14 Hydref.


Source link

Advertisements

See also  Powys council to replace Ystradgynlais' crumbling River Tawe wall

Check Also

‘Rhaid hyrwyddo Sycharth, llys Owain Glyndŵr, yn well’ – gweinidog

Mae’r gweinidog diwylliant wedi gofyn i swyddogion ystyried sut y gellir hyrwyddo Sycharth, llys hynafol …

Cwis Pontydd Cymru – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

‘Hen bryd i’r Gymraeg gael cyfartaledd’ o ran oriau darlledu newyddion

Yr wythnos hon mae Cymdeithas Yr Iaith wedi cyfarfod â phenaethiaid BBC Cymru i leisio …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime