google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bws wedi taro ceir oedd wedi eu parcio ym Mlaenau Gwent

Advertisements

Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i wrthdrawiad rhwng bws a cheir oedd wedi parcio ar ochr lôn ym Mlaenau Gwent fore Mercher.

Cafodd yr heddlu eu galw i stryd Aberbîg ar yr A467 ger Abertyleri tua 08:05 yn dilyn adroddiadau bod bws wedi taro nifer o geir.

Dywed Heddlu Gwent nad oes neb wedi eu hanafu yn dilyn y digwyddiad.

Maen nhw hefyd yn dweud bod lluniau yn awgrymu mai bws o gwmni Stagecoach a darodd y ceir, ac mae’r cwmni wedi cael cais am ymateb.

Dywedodd Kurt Roberts sy’n byw ar y stryd: “‘Nes i glywed bang mawr a dod allan a gweld bod bws wedi taro nifer o geir oedd wedi parcio.

“Gwelais y gyrrwr yn dod allan o’r bws, cyn cael ei gludo o’r safle gan yr heddlu.

“Mae pawb i weld yn iawn, ond mae nifer o bobl yn rhwystredig gan bod yn rhaid delio â’r yswiriant nawr.

“Dyma’r trydydd tro mewn deg mlynedd i hyn ddigwydd.”

Dywedodd mai’r broblem, yn ei dyb ef, yw bod y lôn yn cychwyn ar derfyn cyflymder o 40mya cyn newid i 20mya.


BBC News

Views: 0

See also  How will Afcon impact Premier League teams?

Check Also

Eight-year-old among paddleboarders rescued at sea

An eight year-old and two teenagers are among paddleboarders rescued after being blown offshore. BBC …

Asesiadau TGAU newydd yn ‘gymaint o straen’ ar ddisgyblion ac athrawon

Dywedodd pennaeth Saesneg yr ysgol, Siwan Rees bod “disgyblion yn cael eu hasesu rownd y …

Cyfres Amdani ar S4C Clic: ‘Roedd o’n gyfnod gwerth chweil’

Ymddangosodd y gyfres gyntaf o Amdani ar S4C yn 1999. Roedd gwylwyr y gyfres wrth …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. Nitekim cassinox kullanıcı yorumları da bunu net bir şekilde kanıtlıyor.