
Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus wedi dweud nad oedd yn rasio ei frawd a’i fod yn gyrru’n “ofalus” cyn y gwrthdrawiad.
Bu farw Rhys Jenkins, tad i ddau o Ddeuddwr ym Mhowys, wedi’r gwrthdrawiad ger Y Trallwng ar 16 Tachwedd y llynedd ac fe gafodd ei fab naw oed, Ioan, ei anafu’n ddifrifol.
Mae’r brodyr o Fanceinion, Umar Ben Yusaf, 34, ac Abubakr Ben Yusaf, 29, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, achosi niwed difrifol trwy yrru’n beryglus ac achosi marwolaeth tra’n gyrru heb yswiriant.
Dywedodd Umar Ben Yusaf wrth y rheithgor ei fod ef a’i frawd wedi gadael y fflat yr oedden nhw’n ei rannu yn Aberystwyth yn ystod yr wythnos i fynd yn ôl i Fanceinion ar noson y gwrthdrawiad.
Roedden nhw mewn cerbydau ar wahân, oedd wedi’u parcio mewn gwahanol leoliadau, a heb adael yr un pryd â’i gilydd, meddai.
BBC News