google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn gwadu llofruddio Ian Watkins yn y carchar

Advertisements

Mae dyn wedi gwadu llofruddio Ian Watkins, y troseddwr rhyw oedd yn arfer bod yn ganwr i’r grŵp roc o Gymru Lostprophets.

Roedd Watkins, o Bontypridd, wedi’i garcharu am 29 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant – gan gynnwys ymgais i dreisio babi.

Bu farw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref.

Yn Llys y Goron Leeds fore Mercher, fe blediodd Samuel Dodsworth yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth.

Mae hefyd wedi gwadu cyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant yn y carchar ar y diwrnod y cafodd Watkins ei ladd.

Mae disgwyl i’r achos yn ei erbyn ddechrau ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth ail ddiffynnydd, Rico Gedel sy’n 25 oed – sydd hefyd wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth – wrthod ymddangos yn y llys ar ffurf fideo a ni chyflwynwyd ple ar ei ran.

Cadarnhaodd yr heddlu fis diwethaf bod dau ddyn arall, carcharorion 23 a 39 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.


BBC News

Views: 2

See also  Two appear in court over body of missing Cardiff woman

Check Also

Llys yn clywed honiadau dynes o gael ei threisio ger Eisteddfod Boduan

Disgrifiodd y ddynes mai carafán ei ffrind oedd hi, a’i bod hi’n aros mewn pabell …

Gwrthod cynnig i ymestyn glofa Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin

Dywedodd Jenny Lloyd o Gyfeillion y Ddaear Cymru bod penderfyniad y cyngor yn “newyddion gwych”. …

Snapping turtle with sharp bite found near Swansea

“They’re not going to attack, but if you pick one up it will defend itself …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Search for fitness models. Chaveiro 24 horas na vila ema.