google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn euog o lofruddio babi pum mis oed ei bartner

Advertisements

Roedd anafiadau Jensen Lee yn cynnwys rhai trychinebus i’w ymennydd, sawl toriad i’w esgyrn a gwaedu y tu ôl i’w lygad.

Cafodd tystiolaeth o doriadau asennau hefyd eu canfod, tra bod niwrolawfeddygon wedi disgrifio anaf i ymennydd Jensen-Lee fel un “dinistriol”.

Dywedodd tystion arbenigol wrth y llys fod yr anafiadau a gafodd Jensen-Lee Dougal ymhlith y gwaethaf y maen nhw erioed wedi gweld.

Yn ôl Dr Shafqat Bukhari, Niwrolawfeddyg Pediatrig Ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Plant Manceinion, roedd ganddo waedu trychinebus i’r ymennydd yn ogystal â llinyn yr asgwrn cefn er nad oedd unrhyw arwyddion allanol o unrhyw anafiadau.

Dywedodd y meddyg hefyd, yn ei farn ef, y byddai Jensen-Lee Dougal wedi colli ei ymwybyddiaeth bron yn syth oherwydd difrifoldeb yr ysgwyd, ac na allai fod o ganlyniad i chwarae garw nac ymgais i’w adfywio.

Cafodd y babi ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd a chafodd ataliad ar y galon.

Bu farw ar 31 Mawrth 2024 ym mreichiau ei fam ar ôl i’r cymorth bywyd yn yr ysbyty gael ei ddiffodd.

Dywedodd ei fam Jordan Dougal wrth y llys: “Byddai’n sownd wrth beiriant am weddill ei oes,” gan ychwanegu, “doeddwn i ddim eisiau ei gofio fel ‘na pan oedd yn fabi mor hapus.”


BBC News

Views: 1

See also  Y BBC yn canslo rhifyn Nadolig eleni o'r gyfres Doctor Who

Check Also

Simon Brooks ‘ddim yn poeni am farw’ ers diagnosis canser

Dywedodd Dr Brooks, sydd âdau o blant sy’n oedolion ifanc, ei fod yn benderfynol o …

Formula One Esports world champion from Wales becomes youngest ever

George Morgan, 34, from Monmouthshire, first commentated on a sim race during the Covid lockdown …

South Africa 43-0 Wales: Steve Tandy ‘bitterly disappointed’ by loss

Wales head coach Steve Tandy says he was bitterly disappointed to finish the season with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Healthcare provider archives health care pharmacy. Shipping and payments biolongevity labs.