google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn cyfaddef anafu drwy yrru peryglus ar ôl taro maes pebyll

Advertisements

Mae dyn 19 oed wedi cyfaddef achosi anaf drwy yrru’n beryglus ar ôl i’w gar daro maes gwersylla yn Sir Benfro yn 2023.

Cafodd naw o bobl eu hanafu pan adawodd car Ford Fiesta yr A487 yn Niwgwl nos Sadwrn, 12 Awst 2023, gan daro pebyll ar safle Newgale Campsite.

Fe wnaeth babi oedd yn cysgu mewn pabell gafodd ei tharo gan y car osgoi anaf difrifol.

Roedd teithwyr yn y car ymhlith y rhai gafodd eu hanafu yn y digwyddiad.

Yn Llys Ynadon Hwlffordd fe blediodd Jack Hale o Hwlffordd yn euog i bedwar cyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, a bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ym mis Gorffennaf.


BBC News

Views: 0

See also  Galw am wneud gwell defnydd o bencadlys y llywodraeth yn y gogledd

Check Also

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Roedd yr haul yn gwenu’n braf ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn …

Man arrested as five people injured in crash

Three of the five were seriously injured and the arrested man is in custody. BBC …

Tri wedi’u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.