google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw 48 oed

1745826052 4a1c4cb0 23a5 11f0 95fc 13b4bbd5287d.png

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw 48 oed.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau am bryder am les dau o bobl mewn eiddo yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr am 21:15 ar 18 Ebrill.

Ar ôl iddyn nhw gyrraedd yr eiddo fe wnaethon nhw ganfod corff Tracey Davies. Mae ei theulu wedi cael gwybod.

Cafodd Michael Davies, 56 o Gefn Cribwr, ei arestio ac mae bellach wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Llun.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton, o’r tîm ymchwiliadau troseddol mawr: “Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad sydd wedi achosi tipyn o straen i’r gymuned yng Nghefn Cribwr.

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Tracey.”

Fe wnaeth hi gadarnhau nad yw’r llu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.


BBC News

Advertisements

See also  Joe Allen: Reluctant Wales and Swansea City hero bids quiet farewell

Check Also

Wrexham's Whiteman admits extended break was tough

Wrexham midfielder Ben Whiteman says the three-week international break was more difficult than he first …

AI is being used to steal school pictures, photographers warn

Gilbert said other photographers were increasingly seeing the same behaviour from parents. He noticed that …

Cardiff University ‘banter’ account criticised for sexual assault posts

Some students are calling for a boycott of the social media page, with other posts …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime